Mae Nick Thomas-Symonds, llefarydd materion cartref Llafur yn San Steffan ac Aelod Seneddol Torfaen, wedi cyhuddo’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel o “fethu’n llwyr” â mynd i’r afael ag argyfwng ffoaduriaid yn y Sianel.
Wrth siarad ar raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky News, dywedodd fod ei methiant yn un “peryglus”, a bod y prif weinidog Boris Johnson “fel pe bai’n cytuno” ar ôl rhoi’r cyfrifoldeb o gynnal adolygiad yn nwylo un o weinidogion y Swyddfa Gabinet.
Mae’n rhybuddio, pe bai nifer fawr o bobol yn parhau i groesi’r Sianel y flwyddyn nesaf, y bydd “cynifer o bobol yn peryglu eu bywydau yn y Sianel ag sydd o bobol yn etholaeth Priti Patel”.
Ychwanegodd fod ei “hanallu ar y mater hwn yn beryglus”.
Camau posib i’w cymryd
Mae Nick Thomas-Symonds wedi awgrymu nifer o gamau y dylid eu cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Yn gyntaf oll, mae angen cytundeb dichonadwy arnom ag awdurdodau Ffrainc, rhywbeth nad oes gan Priti Patel,” meddai.
“Y cyfan mae ganddi ddiddordeb ynddo yw ffraeo diplomyddol â Llywodraeth Ffrainc. Nid dyna sydd ei angen arnom.
“Yr hyn sydd ei angen arnom yw edrych nid yn unig ar batrolau’r arfordir, ond mae angen i ni edrych hefyd ar yr hyn sy’n digwydd i ffwrdd o’r arfordir, atal y cludwyr pobol ffiaidd hyn ar y llwybrau maen nhw’n eu hwyluso.
“Dydy pobol ddim yn dod yn ffoaduriaid yng ngogledd Ffrainc.”
‘Un yn ormod’
Dywed fod un person yn peryglu ei fywyd wrth groesi’r Sianel yn un person yn ormod, ond mae’n pwysleisio nad yw e am atal pobol rhag dod i’r Deyrnas Unedig yn gyfangwbl.
Mae’n galw am ailgyflwyno’r cynllun Dubs i roi llwybr diogel i blant sydd ar eu pennau eu hunain yn croesi’r Sianel.
“Yr hyn dw i hefyd yn ei ddweud wrthoch chi, Trevor, yw fod rhaid i ni atal pobol rhag peryglu eu bywydau yn Sianel Lloegr, oherwydd dyna sy’n digwydd bron yn ddyddiol ar hyn o bryd, ac mae Priti Patel yn methu’n llwyr ag atal hynny rhag digwydd,” meddai.
Mae e hefyd yn pwysleisio bod rhaid mynd i’r afael go iawn ag adleoli pobol o Affganistan.
“Fy mhryder i yw, oni bai bod y Llywodraeth yn gwneud hynny’n iawn, y llwybr diogel hwnnw’n iawn, ein bod ni am gael sefyllfa lle bydd trasiedi bosib y flwyddyn nesaf o weld pobol o Affganistan yn Sianel Lloegr, oni bai bod y Llywodraeth yn gwneud hyn yn iawn nawr.”