Fe fydd gŵyl Gymreig i ddathlu diwylliant poblogaidd yn cael ei chynnal yn Lloegr.

Er mai Comic Con Cymru yw ei henw, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi eu bod yn gorfod symud yr ŵyl o’i chartref yn Wrecsam i Telford yn Swydd Amwythig.

Y llynedd, roedd yr ŵyl yn dathlu degawd yn y gogledd, gan ddenu 15,000 o bobol a chyfrannu tua £1 miliwn at yr economi lleol.

Ond, yn ôl gwefan y trefnwyr, maen nhw’n symud i Telford oherwydd diffyg lle yn Wrecsam: “Rydym yn falch iawn ac yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein digwyddiad newydd, jest dros y ffin – Cymru Comic Con: meddiannu Telford,” meddai’r neges.

Confensiwn yw Comic Con Cymru sy’n “dathlu popeth am ddiwylliant pop” gan roi cyfle i bobol gyfarfod ag artistiaid llyfrau comig, sêr ffilm a theledu.

“Deud lot am Lywodraeth Cymru”

“Does gan Wrecsam ddim y lle na’r adnoddau i gynnal yr ŵyl sydd yn biti i ddweud y lleiaf,” meddai Cynghorydd Plaid Cymru yn Wrecsam, Marc Jones, wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n deud lot am y diffyg buddsoddi gan Lywodraeth Cymru mewn adnoddau, cyfleusterau, ac mewn cynadleddau yma yn Wrecsam ag yn y Gogledd yn gyffredinol.”

“Mae yna lot yn pwyntio bys at Comic Cons Cymru – ond mae’r trefnydd wedi bod wrthi’n adeiladu hwn ers degawd.

“Tydi hi ddim wedi cael lot o gefnogaeth gan yr awdurdodau a fyswn i’n pwyntio bys yn blaen atyn nhw.”

“Angen digwyddiadau”

Yn ôl Marc Jones mae’r bai yn blwm ac yn blaen ar Gyngor Wrecsam ac ar Lywodraeth Cymru, gyda diffyg cefnogaeth o’u hochor nhw yn gwneud cam â Wrecsam.

“Mae Wrecsam angen y math yma ddigwyddiadau ac mae angen help i’w cynnal nhw,” meddai.

“Mae yna filoedd o bobol yn dod i hwn felly mae o’n sicr yn golled i’r economi. Mae’n bwysig bo’ ni’n cael digwyddiadau fel’ma yn lleol. Pam fod rhaid ni deithio o hyd, a pam na ddyla’ ni ddenu pobol yma?”

Mae Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad hefyd wedi beirniadu’r symundiaud: “Dyw hyn ddim yn newyddion da i Gymru. Mae gan hon ddilyniant enfawr… Siawns na ellir dod o hyd i leoliad Cymreig?” meddai Bethan Sayeed mewn neges trydar

Mae Golwg360 wedi gofyn ers ddoe am ymateb Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam