Yn dilyn beirniadaeth tros amgylchiadau symud gŵyl o Wrecsam i Loegr, mae’r cyngor sir yn mynnu eu bod “wedi cynnig cefnogaeth” i Comic Con Cymru.
Cafodd Cyngor Wrecsam eu beirniadu ddoe (Dydd Iau, Mai 16) am beidio gwneud mwy i sicrhau bod yr ŵyl Gymreig fawr yn aros yn y dref.
Er mai Comic Con Cymru yw enw’r ŵyl, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi eu bod yn gorfod ei symud o Wrecsam i Telford yn Swydd Amwythig eleni.
Dywed y Cynghorydd Plaid Cymru yn Wrecsam, Marc Jones, bod y bai yn blwmp ac yn blaen ar Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru am ddiffyg cefnogaeth.
“Tydi hi ddim wedi cael lot o gefnogaeth gan yr awdurdodau a fyswn i’n pwyntio bys yn blaen atyn nhw,” meddai.
Y llynedd, roedd yr ŵyl yn dathlu degawd yn y gogledd, gan ddenu 15,000 o bobol a chyfrannu tua £1 miliwn at yr economi lleol.
“Wedi cynnig cefnogaeth”
Ond yn ôl y Cynghorydd Terry Evans, Arweinydd Ddatblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Wrecsam, “mae cynrychiolwyr o’r Cyngor wedi cysylltu â Comic Con dros y blynyddoedd i gynnig cefnogaeth.
“Yn ddiweddar, bu’r cyngor yn cefnogi’r confensiwn gyda darpariaethau staff gwirfoddol, er bod y cynnig hwn wedi ei wrthod y flwyddyn ganlynol.”
Enillodd yr ŵyl wobr y Digwyddiad Mawr Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth 2017 Wrecsam.
Yn ôl gwefan trefnwyr Comic Con, diffyg lle yw’r rheswm tros symud i Telford.
“Cafodd trefnwyr Comic Con hefyd wahoddiad i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Grŵp Cynghori Diogelwch,” meddai Terry Evans, “a gynhelir er mwyn mynd i’r afael â materion fel mynediad a pharcio – fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw gynrychiolaeth o’r digwyddiad.”
“Colled i’r ardal”
“Heb os, mae Comic Con yn mynd i Telford yn golled i galendr digwyddiadau’r ardal, ac rydym yn cydnabod eu llwyddiant a’r effaith y maent yn ei chael ar y diwydiant twristiaeth yma yn Wrecsam,” meddai’r Cynghorydd Terry Evans
“Rydym yn fwy na pharod i ymgysylltu â’r sefydliad i sicrhau y gellir dod o hyd i ateb ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, ac er lles yr economi dwristiaeth leol.
“Byddem yn hapus i weithio gyda nhw ar ganfod atebion posibl neu safleoedd eraill ar gyfer y dyfodol os ydyn nhw’n rhagweld digwyddiadau yn yr ardal yn y dyfodol.”