Roedd bron i 5% o weithlu Cymru yn gweithio o gartref yn rheolaidd y llynedd, yn ôl astudiaeth newydd.
Ac yn ôl ymchwil Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), mae’r nifer sy’n gweithio o gartref wedi cynyddu 27% mewn degawd.
Yng Nghymru yn 2018, roedd 61,000 yn gweithio o gartref yn rheolaidd, ac mae hynny’n gyfwerth â 4.7% o weithlu’r wlad.
Mae cyhoeddi’r ffigyrau yn cyd-daro â ‘Diwrnod Gweithio o Gartref y Deyrnas Unedig’.
Yn ôl y TUC nid oes digon o gyflogwyr yn gadael i’w gweithwyr weithio o gartref.
“Mae pawb yn medru elwa o weithio o adre – gweithwyr yn ogystal â chyflogwyr,” meddai Rhianydd Williams, Swyddog Bolisi TUC Cymru.
“Mae gan weithwyr mwy o amser i dreulio â’u teuluoedd. Ac mae cyflogwyr yn medru elwa o weithlu mwy cynhyrchiol. Mae yna fuddion amgylcheddol hefyd.
“Ond, mae gormod o gyflogwyr yn sownd yn y gorffennol, a dydyn nhw ddim yn ymddiried digon yn eu staff. Mae angen iddyn nhw ddal fyny.”
Ffigurau
- Mae gweithwyr hŷn yn fwy tebygol o weithio o adre:
- Mae 7.5% o bobol 40-59 yn gweithio o adre
- …ond dim ond 3.4% o bobol 20-29 sy’n gwneud hynny.
- Mae tua 4 miliwn o weithwyr gwledydd Prydain eisiau gweithio o adre yn ystod peth o’r wythnos.