Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod mewn perthynas â marwolaethau pedwar o bobol yn afon Cleddau yn Hwlffordd.
Bu farw Morgan Rogers (24 oed o Ferthyr Tudful), Nicola Wheatley (40 oed o Bontarddulais ger Abertawe), a Paul O’Dwyer (42 oed o Bort Talbot), oedd i gyd yn aelodau o grŵp padlfyrddio, ar ôl mynd i drafferthion yn y dŵr.
Ac mae’r heddlu’n dweud mai Andrea Powell, dynes 41 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, yw’r pedwerydd person fu farw.
Roedd hi wedi bod yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Mae lle i gredu bod Paul O’Dwyer wedi mynd i’r dŵr i geisio achub y criw o naw o bobol oedd wedi teithio yno ar gyfer y weithgaredd.
Roedden nhw i gyd yn aelodau o griw o badlfyrddwyr ym Mhort Talbot.
Dywedodd aelod arall o’r criw ei bod hi wedi penderfynu peidio mynd i’r dŵr oherwydd y tywydd garw.
Mae’r ddynes sydd wedi’i harestio wedi’i rhyddhau dan ymchwiliad.