Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod gwisgo masgiau yn effeithio ar ein gallu i gymdeithasu a rhannu emosiynau gyda phobol eraill.

Awgryma’r astudiaeth, a gafodd ei harwain gan Brifysgol Caerdydd, y gallai gwisgo mygydau beri goblygiadau “o bwys” i’r ffordd rydyn ni’n cyfathrebu.

Mae pobol yn tueddu i ddynwared emosiynau sy’n cael eu mynegi gan eraill, ac mae gorchuddio rhan isaf yr wyneb yn peri problemau i hynny, meddai’r astudiaeth.

Yr ymchwil

Cofnododd y gwyddonwyr weithgarwch ymennydd 38 unigolyn wrth iddyn nhw wylio fideo o fynegiannau ofnus, hapus a dig, ac edrych ar wrthrychau bob dydd.

Roedd gofyn i’r rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth wylio’r fideos a dal beiro rhwng eu dannedd am hanner y fideos, ac wedyn gwylio’r gweddill heb y beiro.

Roedd yr ymchwilwyr am weld, am y tro cyntaf, yr effaith a gafodd hyn ar broses sy’n cael ei galw’n ddrych niwral – sef y gweithgarwch sy’n cael ei reoli gan y system echddygol (motor system) sy’n rheoli ein gweithredoedd a hefyd yn sylwi ar weithredoedd pobol eraill.

Mae drych niwral yn hwyluso tasgau syml fel cydsymud y llygaid a’r llaw, a thasgau mwy cymhleth fel deall emosiynau eraill.

Datgelodd y canlyniadau fod y rhai oedd yn gallu symud eu hwyneb yn ddi-rwystr heb y beiro yn dangos drych niwral sylweddol wrth arsylwi ymadroddion emosiynol, ond nid wrth edrych ar y gwrthrychau bob dydd.

Pan oedd beiro rhwng eu dannedd, doedd dim unrhyw ddrych niwral wrth edrych ar y mynegiannau dig a hapus, ond roedd yn dangos drych niwral wrth edrych ar fynegiannau ofnus.

‘Peri problem’

Dywedodd y prif awdur, Dr Ross Vanderwert o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd fod “pobol yn tueddu i ddynwared yr emosiwn a fynegir ar wynebau pobol eraill wrth edrych arnynt, p’un a ydyn nhw’n gwenu, yn gwgu neu’n chwerthin”.

“Mae’r dynwarediad hwn o’r wyneb – lle mae’r ymennydd yn ail-greu ac yn adlewyrchu profiad emosiynol y person arall – yn effeithio ar sut rydym yn cydymdeimlo ag eraill ac yn rhyngweithio’n gymdeithasol,” meddai.

“Mae ein hastudiaeth yn awgrymu, pan fydd symudiadau yn rhan isaf yr wyneb yn cael eu hamharu neu eu cuddio, gall hyn beri problem, yn enwedig ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol a’r gallu i rannu emosiynau.

“Mae gwisgo mwgwd yn parhau i fod yn hanfodol i amddiffyn ein hunain ac eraill yn ystod pandemig Covid-19 – ond mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai hyn beri goblygiadau o bwys i’r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio.”

Prosesau “hynod heriol”

Dywedodd yr ail awdur, Dr Magdalena Rychlowska o Ysgol Seicoleg Prifysgol Queen’s, Belffast, nad yw gorchuddio rhan isaf y wyneb yn cael gymaint o effaith ar ymateb ein hymennydd i emosiynau sy’n cael eu mynegi drwy’r llygaid, megis ofn.

“Ar gyfer emosiynau sy’n cael eu mynegi’n fwy eglur gan y llygaid, er enghraifft ofn, nid yw atal y wybodaeth a ddarperir gan y geg yn effeithio ar ymateb ein hymennydd i’r emosiynau hynny yn ôl pob golwg. Ond ar gyfer ymadroddion sy’n dibynnu ar y geg, fel gwên gyfeillgar, cafodd y blocio fwy o effaith,” meddai.

“Mae ein canfyddiadau’n awgrymu bod prosesu wynebau yn dasg hynod heriol a bod angen cymorth yr wyneb ar yr ymennydd, a’i fod yn dibynnu arno, i gefnogi’r system weledol er mwyn deall emosiynau pobol eraill.

“Gall adlewyrchu neu efelychu emosiynau person arall alluogi empathi; fodd bynnag, hyd yma mae’r mecanweithiau niwral sy’n cynorthwyo’r math hwn o gyfathrebu emosiwn wedi bod yn aneglur.”