Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru ceir trydan sydd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae yna tua 994 o bwyntiau gwefru ar draws Cymru, sydd 20,000 yn llai nag sydd gan Loegr ac 1,600 yn llai na’r Alban.

O’r 994 hynny, dim ond 160 sydd yn bwyntiau gwefru cyflym sy’n cymryd llai o amser i wefru car yn llawn.

Mae pedwar cyngor sir yng Nghymru sydd â dim ond un pwynt gwefru cyflym, sef Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Thorfaen.

Cred y Ceidwadwyr mai bodolaeth digonedd o bwyntiau gwefru cyflym sy’n mynd i annog mwy o bobol i brynu ceir trydan.

Angen gwneud mwy

Mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar y Llywodraeth i wella eu cynllun pwyntiau gwefru ar unwaith.

“Mae gweinidogion Llafur yng Nghymru yn hoff o siarad am fod yn wyrdd a helpu i daclo newid hinsawdd, ond mae eu hymdrechion truenus gyda phwyntiau gwefru yn dweud fel arall,” meddai.

“Gyda chanlyniadau trychinebus newid hinsawdd yn y newyddion bob dydd ac uwchgynhadledd COP26 ar y gweill, mae’n hen bryd i’r weinyddiaeth Lafur stopio siarad am weithredu a mynd ati i wneud rhywbeth o bwys.

“Mae angen i bobol ddechrau teithio’n fwy gwyrdd, ond dw i ddim yn siŵr sut fydd pobol yn cael eu temtio i brynu ceir trydan pan fo diffyg llefydd i’w gwefru ledled y wlad.

“Mae angen o leiaf 20,000 o bwyntiau gwefru ceir trydan os ydyn ni am annog pobol i ymuno â’r chwyldro gwyrdd, ond gyda chynllun affwysol y blaid Lafur, sy’n gosod cynlluniau ar gyfer 50 gorsaf bweru cyflym yn y pedair blynedd nesaf, mae gennym ni ffordd i fynd.”

Ymateb

“Mae gwefrydd cyhoeddus ar gyfer pob chwe cherbyd trydan ar gyfartaledd yng Nghymru ond rydyn ni am sicrhau bod cyflymder cyflwyno gwefryddion yn cyfateb i ddefnydd cerbydau trydan yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd ein cynllun gwefru EV a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn sicrhau bod holl ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydan pryd a ble mae ei angen arnynt erbyn 2025.

“Eleni, rydym yn buddsoddi £7m i ddarparu mwy na 400 o wefrwyr cerbydau trydan ychwanegol er mwyn i’r cyhoedd gael mynediad atynt, sy’n gynnydd sylweddol ar y 1,000 o bwyntiau gwefru sydd eisoes ar gael.”