Mae’r Ymddiriedolaeth Natur wedi derbyn dros £10,000 o roddion ar ôl i nyth Gweilch y Pysgod gael ei difrodi yn Llyn Brenig yn Sir Conwy.

Daw hyn ar ôl i fandaliaid lifio drwy blatfform oedd yn dal y nyth gan ddefnyddio llif gadwyn, er bod yr adar yn cael eu gwarchod gan ddeddf gwlad.

Roedd un o’r gweilch newydd ddodwy am y tro cyntaf y noson cyn y digwyddiad.

Mae Prosiect Gweilch y Brenig yn bartneriaeth rhwng Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Mae’r safle nythu yn Brenig yn gartref i ddwy fenyw ac un gwryw.

Dywedodd Prosiect Gweilch Brenig, sy’n gwarchod yr adar yn y safle ger pentref Cerrigydrudion yn Sir Conwy, eu bod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth.

Y gweilch “yn dal i fod o gwmpas”

Yn ôl y prosiect, mae’r gweilch wedi aros o gwmpas yr ardal, ac mae dau nyth newydd wedi cael eu paratoi ar eu cyfer.

Dywedodd arweinwyr y prosiect mewn datganiad at eu tudalen Facebook: “Mae ein gweilch yn dal i fod o gwmpas – mewn pâr, yn pysgota, yn dangos ymddygiad tiriogaethol ac yn gyffredinol yn dangos eu bod eisiau aros yn Llyn Brenig.

“Mae hyn yn newyddion da – er ei fod yn achos o aros a gweld, gan leihau unrhyw aflonyddwch.”

Mesurau diogelwch mewn grym

Yn dilyn y digwyddiad, mae mesurau diogelwch mewn grym.

“Mae mesurau amddiffyn wedi eu gwella’n sylweddol ar y safle, gyda mwy i ddilyn yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf,” meddai arweinwyr y prosiect ar facebook.

“Gobeithio y byddwch yn deall nad ydym yn gallu mynd i unrhyw fanylion pellach am yr hyn sydd ar waith.”

Nyth gweilch y pysgod: heddlu’n dal i ddilyn “sawl trywydd” yn yr ymchwiliad

Defnyddiodd y troseddw(y)r lif gadwyn i ddifrodi platfform lle’r oedd nyth yr adar

Fandaliaid lifiodd nyth gweilch yn cael eu hela gan yr heddlu

“Roedd un o’r gweilch newydd ddodwy ei ŵy cyntaf y noson gynt”