Nid yw’r cwmnïau gwerthu gwyliau dramor wedi codi eu prisiau, medden nhw, ar drothwy cyhoeddi ‘rhestr werdd’ Llywodraeth Prydain.

Dyma’r rhestr fydd yn nodi pa wledydd y bydd modd ymweld â nhw heb orfod hunan-ynysu wrth ddychwelyd i Loegr.

Y disgwyl yw y bydd y rhestr werdd yn dod i rym ar Fai 17 ac yn cynnwys Portiwgal, Gwlad yr Iâ a Malta.

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Tui wedi dweud wrth y BBC y bydd hi’n “amser hir” cyn y bydd cwmnïau gwyliau yn ystyried cynyddu maint eu helw.

“Mae ein prisiau yn sefydlog iawn, iawn,” meddai Andrew Flintham.

“Maen nhw fwy neu lai’r un fath… does yna ddim cynnydd mawr yna.

“Mae ganddo ni ddigonedd o wyliau i’w gwerthu. Dw i’n credu fod hynny yn wir am bawb sydd yn y diwydiant.

“Mi fydd cyfnod hir cyn y daw’r syniad o geisio codi prisiau er mwyn gwneud mwy o arian. Ryden ni eisiau mynd â phobol ar eu gwyliau, i gael amser da, oherwydd rydan ni wir yn credu eu bod nhw yn haeddu hynny.”

Ond mae prisiau tocynnau awyren i hedfan i Bortiwgal eisoes wedi cynyddu oherwydd galw mawr amdanyn nhw wrth i reolau hynan-ynysu lacio.

Mae British Airways yn codi £530 i hedfan o Lundain i’r Algarve ym Mhortiwgal ar Fai 17, o gymharu gyda £276 ddeuddydd ynghynt.

Ac mae hedfan o faes awyr Stansted i Lisbon gyda chwmni Ryanair yn costio £262 ar Fai 19, sy’n fwy na dwbwl y £128 mae am gostio ar Fai 14.