Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd ffyrdd yn Aberteifi yn cau i geir unwaith eto er mwyn helpu i atal Covid-19 rhag lledaenu ymhellach yn yr ardal.

Daw hyn wedi i saith o ysgolion orfod cau am bythefnos yn yr ardal.

“Wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws yn Aberteifi a’r cyffiniau barhau i gynyddu, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cymryd pob cam i helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach yn ein cymunedau,” meddai’r Cyngor Sir mewn datganiad.

“Un o’r camau hyn yw cau ffyrdd unwaith eto dros dro ym Mharth Diogel Aberteifi er mwyn sicrhau y gall pobol gynnal y pellter cymdeithasol gofynnol wrth grwydro’r strydoedd.”

Bu parthau diogel hefyd mewn lle yn Aberystwyth ac Aberaeron yn ystod yr haf er mwyn creu gofod lle gall pobol gerdded o gwmpas yn ddiogel.

Daw’r Parth Diogel yn Aberteifi i rym bob dydd rhwng 11.00 y bore a 4.30 y prynhawn o ddydd Iau Tachwedd 26.