Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r cymorth fydd ar gael i fusnesau yn dilyn y cyfnod clo dros dro.

Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog gyhoeddi cyfres o fesurau symlach fydd yn dod i rym pan fydd y clo dros dro Cymru yn dod i ben ar Dachwedd 9.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru egluro ar frys pa gymorth sydd ar gael i fusnesau am weddill y clo yng Nghymru a’r cyfyngiadau cenedlaethol newydd”, meddai Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Bydd busnesau sydd wedi bod ar gau yn ystod y clo dros dro yn cael ailagor ar 9 Tachwedd, ond yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau yn Lloegr, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod y rheolau yn ymwneud ag ailagor y diwydiant lletygarwch.

‘Siomedig’

Yn ogystal â chymorth i fusnesau mae Paul Davies wedi mynegi ei siom nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion grantiau eraill chwaith.

“Mae hefyd yn siomedig nad yw’r Prif Weinidog, bum wythnos ar ôl cyhoeddi’r grantiau hunanynysu i bobol ar incwm isel, a’u hailgyhoeddi’r wythnos ddiwethaf, wedi rhyddhau unrhyw fanylion ynghylch sut y bydd pobol yn gallu cael gafael ar y grantiau hanfodol hyn,” meddai.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog wythnos ddiwethaf byddai modd i bobol sydd ar incwm isel wneud cais am daliad o £500 os ydyn nhw wedi cael prawf coronafeirws positif.

Rhoi’r Gwasaaneth Iechyd yn ôl ar waith

“Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy beiddgar wrth roi gwasanaethau craidd y Gwasanaeth Iechyd yn ôl ar waith er mwyn osgoi argyfyngau iechyd eraill wrth gan gynnwys canser a chlefyd y galon,” meddai Paul Davies.

“Rwyf eisoes wedi galw am ysbytai gwyrdd yng Nghymru, nad ydynt yn derbyn cleifion Covid-19, i gadw cleifion eraill yn ddiogel.

“Yn olaf, mae angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o fanylion am y cymorth y mae’n ei roi i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i reoli’r system olrhain cyswllt.

Dylai’r wybodaeth yma, a fyddai’n rhoi hyder i’r system yng Nghymru, fod wedi’i chynnwys yn y cyhoeddiad.”