Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno “cyfnod pontio” o bythefnos pan ddaw’r cyfnod clo dros dro i ben, meddai arweinydd Plaid Cymru Adam Price.
Yn ôl Adam Price fyddai’n “wrthgynhyrchiol” llacio’r holl fesurau’n sydyn os yw cyfradd R yng Nghymru Cymru yn parhau i fod yn uwch nag un.
“Mae dod allan yn rhy gynnar ac yn rhy gyflym yn peryglu dadwneud unrhyw fanteision a gafwyd”, meddai.
Mae wedi galw am ddull arafach o godi’r cyfyngiadau, megis cau lletygarwch am 6 yr hwyr, a pharhau a dysgu cyfunol mewn ysgolion.
“Araf ac yn gyson”
“Fyddwn ni ddim yn gwybod ar unwaith pa mor llwyddiannus fu’r [clo dros dro] wrth ostwng y gyfradd heintio. Felly, byddai’n wrthgynhyrchiol llacio’r holl fesurau’n sydyn os yw’r rhif R yn parhau i fod yn uwch na 1,” meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd effaith y clo dros dro i’w weld am bythefnos ar ôl iddo ddod i ben.
“Dylai Llywodraeth Cymru wneud y newidiadau hyn yn araf ac yn gyson yn hytrach na ailagor bob dim ar unwaith,” meddai Adam Price.
“Gallai cyfnod pontio o bythefnos wrth i ni ddod allan o’r clo dros dro gynnwys ailagor lletygarwch yn raddol, er enghraifft cau am 6 yr hwyr, wedi’i gefnogi gan gymorth ariannol priodol – a rhaglen o ddysgu cyfunol mewn ysgolion.
“Byddai dull gofalus yn arwain at ganlyniadau iechyd cyhoeddus gwell, mwy o sicrwydd i fusnesau a bydd yn osgoi’r cylch parhaol o gloi a datgloi – a fydd yn niweidiol i bawb.”
Ychwanegodd fod angen eglurder am sut y defnyddiwyd y clo dros dro i wella’r system olrhain cyswllt.