Mae Boris Johnson wedi dweud y gallai’r Deyrnas Unedig “drechu’r feirws erbyn y Gwanwyn.”
Daeth ei sylwadau wrth iddo ymateb i wrthwynebiad cynyddol gan y Ceidwadwyr dros gyflwyno ail glo cenedlaethol yn Lloegr.
Bydd clo cenedlaethol yn dod i rym yno ddydd Iau, Hydref 5.
Dywedodd Boris Johnson hefyd y caiff Tŷ’r Cyffredin bleidlais i gytuno ar y ffordd ymlaen wedi i’r clo cenedlaethol ddod i ben.
Ond mae nifer cynyddol o ASau ar feinciau cefn y Ceidwadwyr yn dweud y byddant yn pleidleisio yn erbyn y clo mewn pleidlais ddydd Mercher, Hydref 4, ddiwrnod cyn y bydd yn dod i rym.
Brechlyn ar gael y flwyddyn nesaf
Eglurodd Boris Johnson ei fod yn ffyddiog y bydd brechlyn ar gael yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf.
“Rwy’n credu y bydd datblygiadau technegol yn ein galluogi i drechu’r feirws hwn erbyn y gwanwyn fel yr ydym fel dynoliaeth wedi trechu pob clefyd heintus arall,” meddai.
Rhybuddiodd Johnson ASau nad oes “dewis arall” ond cyflwyno cyfnod clo cenedlaethol arall yn Lloegr ac y gallai dwywaith cymaint o farwolaethau fod yn ystod y gaeaf.
“Methiant trychinebus”
Cyhuddodd Keir Starmer y Prif Weinidog o “fethiant trychinebus”.
Yn ôl arweinydd y blaid Lafur dylai’r Prif Weinidog fod wedi dilyn argymhelliad gwyddonwyr a chyflwyno clo byrrach ym mis Medi.
“Oherwydd ei benderfyniad i beidio cyflwyno clo dros dro er mwyn gwarchod yr economi bydd rhaid i fusnesau gau am fwy o amser, bydd mwy o bobol yn colli eu swyddi, a bydd y cyllid cyhoeddus yn waeth fyth”, meddai.