Mae pandemig y coronafeirws wedi rhoi chwyddwydr ar berthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig, medd y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Dywedodd bod gwrthodiad Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i gyflwyno gwaharddiad teithio i bobol sy’n byw mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o’r coronafeirws wedi dangos anallu’r Torïaid i wrando ar Gymru, a’i deall.
Wrth siarad am ymateb ei lywodraeth i’r pandemig, dywedodd Mark Drakeford: “Mae wedi rhoi chwyddwydr ar ein perthynas â’r Deyrnas Unedig sydd, fel dw i wedi ei ddweud sawl gwaith, ddim wedi bod yn ddigon da.
“Does dim rhythm cyson, dibynadwy wedi bod, a phan rydym wedi cael hynny, nid yw wastad wedi bod yn foddhaol.
“Rydym wedi gorfod defnyddio pwerau ein hunain i lenwi’r bwlch. Dw i’n credu bod yno gefnogaeth gref i hynny gan Gymry, ac mae’n dangos nad yw’r Ceidwadwyr yn fodlon gwrando ar y materion sydd bwysicaf i bobol sy’n byw yng Nghymru.”
Aeth ymlaen i ddweud bod y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi pleidleisio yn erbyn ei gyfyngiadau lleol yn Senedd Cymru yn “anghyfrifol ac anfaddeuol.”
Disgwyl y Fil y Farchnad Fewnol gael ei atal gan yr Arglwyddi
Mae Mark Drakeford yn rhagweld y bydd Bil y Farchnad Fewnol yn cael ei atal yn Nhŷ’r Arglwyddi, ond dywedodd fod Boris Johnson bygwth yr undeb drwy gyflwyno’r fath ddeddfwriaeth.
“Mae’r Prif Weinidog presennol [Boris Johnson] yn fygythiad i’r undeb a’r Bil mae e’n ceisio ei gyflwyno yw’r enghraifft orau o’r bygythiad hwnnw.
Roedd ganddo eiriau tipyn cleniach i Syr Keir Starmer, gan ddweud ei bod hi’n “hawdd iawn” adeiladu perthynas gydag ef.