Bydd tren bach yr Wyddfa yn cau o 6pm heddiw tan fis Mawrth 2021.
Daw penderfyniad Rheilffordd yr Wyddfa yn sgil mesurau Llywodraeth Cymru i atal pobl rhag teithio i Gymru o fannau â lefelau uchel o’r coronafeirws.
Mewn datganiad ar y wefan, dywedodd Rheilffordd y Wyddfa:
“RYDYM YN CAU. Oherwydd y mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth Cymru o 6pm ddydd Gwener 16 Hydref 2020, rydym wedi gwneud y penderfyniad eithriadol o anodd i gau ar gyfer tymor 2020.
“Bydd y rheilffordd yn cau ar ddydd Gwener 16 Hydref 2020 ac yn cynnwys dydd Gwener 16 Hydref 2020 a byddwn yn ailagor ym mis Mawrth 2021.”
Mae’r rheilffordd yn nodi y bydd unrhyw archebion y mae’r cau cynnar yn effeithio arnynt yn parhau’n ddilys, a gellir eu trosglwyddo i dymor 2021 heb unrhyw gost ychwanegol.