Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi dweud bod angen i’r ddwy ochor gyfaddawdu os yw’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd am sicrhau cytundeb masnach.
Dywedodd bod “cynnydd boddhaol” wedi bod tuag at gytundeb, ond bod yno “dal lot o waith angen ei wneud.”
Roedd hi’n siarad â’r cyfryngau ar ddiwedd diwrnod cyntaf cynhadledd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.
Mae hi wedi cyfaddef fod gan y ddwy ochor “linellau coch” ei hunain, ond y dylai’r Undeb Ewropeaidd fod yn fodlon cyfaddawdu os yw’r Deyrnas Unedig yn gwneud yr un fath.
Aeth ymlaen i ailadrodd bod gwarchod y farchnad sengl a sicrhau heddwch yn Iwerddon yn allweddol i’r Undeb Ewropeaidd.
“Rydym wedi gofyn i’r Deyrnas Unedig fod yn fodlon cyfaddawdu er mwyn sicrhau cytundeb – mae hyn yn cynnwys cyfaddawdu gennym ni, wrth gwrs,” meddai Angela Merkel.
“Mae hi’n bwysig i ni fod Iwerddon yn gallu parhau i fyw mewn heddwch, ac ein bod yn gwarchod y farchnad sengl.
“Rydym yn cydnabod bod y Deyrnas Unedig eisiau cael hyn a hyn o annibyniaeth gan nad ydyn yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.”