Mae diffyg cynllunio economaidd ar gyfer pandemig y coronafeirws wedi costio biliynau o bunnoedd i’r trethdalwr, yn ôl Aelodau Seneddol.

Yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, oherwydd y diffyg cynllunio bu’n rhaid i’r Trysorlys ruthro i greu cyfres o fesurau i gefnogi’r economi, wrth i’r Cloi Mawr ddod i rym ym mis Mawrth.

Dywed y Pwyllgor ei fod yn “hynod bryderus” fod Refeniw a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) wedi amcangyfrif bod £3.5 biliwn o’r £35.4 biliwn gafodd ei wario ar y cynllun ffyrlo wedi cael ei hawlio drwy dwyll neu ei dalu mewn camgymeriad.

Ar ben hynny, mae’r pwyllgor yn dweud fod pandemig y coronafeirws wedi golygu bod staff HMRC wedi gorfod stopio casglu trethi, er mwyn tywys trethdalwyr drwy amryw o gynlluniau cefnogaeth Covid.

O ganlyniad, mae’n debyg bod yr arian gafodd ei gasglu yn nhri mis cyntaf y flwyddyn dreth wedi gostwng 51% o’i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.

Dylai’r Llywodraeth fod wedi paratoi yn fwy trylwyr ar gyfer effeithiau economaidd y coronafeirws, gan fod pandemig wedi bod ar dop y gofrestr risg genedlaethol ers blynyddoedd, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Meg Hillier.

Ychwanegodd bod angen gweithredu ar frys er mwyn lleihau colledion y trethdalwr.

“Mae ein canfyddiadau o ddiffyg cynllunio economaidd rhyfeddol ar gyfer y pandemig yn dangos bod twyll yn erbyn y trethdalwr wedi ymdreiddio i gynlluniau cefnogaeth economaidd brysiog y Llywodraeth,” meddai Meg Hillier.

“Hoffwn weld y Llywodraeth yn cyhoeddi rhestr o’r cwmnïau sydd wedi derbyn arian ffyrlo.

“Dylai tryloywder fod yn ganolog wrth ddefnyddio arian y trethdalwr.”

“Gwarchod swyddi wedi bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Ers dechrau’r pandemig, mae gwarchod swyddi a darparu cefnogaeth i’r sawl oedd ei angen mor gyflym â phosib wedi bod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.

“Cafodd ein cynlluniau eu dylunio i rwystro twyll ac rydym wedi gwrthod miloedd o geisiadau twyllodrus.”