Mae ymateb ffyrnig wedi bod i ddadl Alun Cairns bod y ‘Bil Marchnad Fewnol’ yn “hanfodol” ac am danio’r “frwydr” i achub yr “Undeb”.

Cafodd y mesur drafft ei gyflwyno ddydd Mercher, ac yn ôl Llywodraeth San Steffan mi fydd sicrhau masnach lyfn oddi fewn i’r Deyrnas Unedig yn sgil Brexit.

Ond mae’r bil arfaethedig wedi corddi ffigyrau o bob perswâd gwleidyddol, ac mae yna ofidion mawr am ei oblygiadau i ddatganoli a thrafodaethau ag Ewrop.

Bellach mae Alun Cairns, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru (a gamodd o’r neilltu dan gwmwl du), wedi canu ei glodydd mewn darn i bapur The Telegraph.

Cipio pwerau

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi dadlau y byddai’r ‘Bil Marchnad Fewnol’ yn cipio pwerau oddi wrth Gymru, ac yn ei hanfod dyw Alun Cairns ddim yn gwadu hynny.

Mae’n gofidio y gallai “llywodraethau datganoledig weithredu i danseilio undod marchnad y Deyrnas Unedig” yn sgil Brexit – ac wedi i reoliadau’r Undeb Ewropeaidd ddod i ben.

A heb y bil, meddai, byddai “dim byd yn stopio gweinidog rhag cyflwyno cymorthdaliadau annheg” er mwyn rhoi hwb i ddiwydiant yng Nghymru neu’r Alban.

Trwy gyfyngu ar y fath bwerau, bydd modd sicrhau masnach deg ac unedig oddi fewn i’r Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit – dyma yw’r ddadl.

“Agenda” cenedlaetholwyr

Mae Alun Cairns hefyd yn dadlau nad oes modd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi busnesau neu gynghorau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar hyn o bryd – dan y drefn bresennol.

Yn y darn mae’n tynnu sylw at drybini cwmni dur Tata Steel ym Mhort Talbot yn 2015, ac mae’n dweud nad oedd modd iddo weithredu oherwydd y drefn sydd ohoni.

Byddai’r ‘Bil Marchnad Fewnol’ yn rhoi grym i San Steffan yn hyn o beth, ac mae Alun Cairns yn dadlau bod hynny’n beth da.

“Pan mae busnes mawr – neu gyngor mewn gwlad ddatganoledig – dan bwysau (oddi wrth Covid-19 er enghraifft) dyw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn medru gweithredu,” meddai.

“Dan y ddeddfwriaeth bresennol rhaid mynnu cydsyniad y llywodraethau datganoledig er mwyn gweithredu.

“Dyw busnesau ddim yn deall hynny, ac mae Cenedlaetholwyr yn cymryd mantais o’r sefyllfa er dibenion eu hagenda.”

Ymateb ar Twitter

Mae darn Alun Cairns wedi ennyn ymateb chwyrn ar Twitter a gellir gweld hynny o glicio’r trydariad isod.