Mae Alun Cairns wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo o fod yn Ysgrifennydd Cymru, yn dilyn honiadau ei fod  yn gwybod fod ymgeisydd Ceidwadol wedi dymchwel yn fwriadol achos llys.

Mae’n dweud ei fod wedi rhoi’r gorau iddi “yn wyneb mwy a mwy o sylw a sylwebu” – er ei fod yn mynnu y bydd yn cael ei glirio o wneud unrhyw beth o’i le.

Mae Alun Cairns yn dal i fynnu nad oedd yn ymwybodol fod tystiolaeth a oedd wedi’i chyflwyno gan ei gyn-ymgynghorydd, Ross England, yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Ebrill y llynedd, wedi arwain at dymchwel yr holl achos.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, roedd Alun Cairns wedi cefnogi cais Ross England i fod yn ymgeisydd ar ran y Torïaid ym Mro Morgannwg.

Fe ddaeth i’r amlwg fod Alun Cairns yn ymwybodol o’r honiadau mor bell yn ôl â mis Awst y llynedd.

Llythyr ymddiswyddo

“Byddwch chi’n ymwybodol o’r honiadau yn ymwneud â gweithredoedd cyflogai’r blaid ac ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym Mro Morgannwg,” meddai Alun Cairns yn ei lythyr at Boris Johnson, prif weinidog Prydain.

“Mae hwn yn fater sensitive iawn ac yng ngoleuni’r sibrydion parhaus, rwy’n ysgrifennu yn cyflwyno fy ymddiswyddiad o fod yn Ysgrifennydd Cymru.

“Byddaf yn cydymffurfio’n llwyr â’r ymchwiliad yn unol â’r Cod Gweinidogol a fydd yn cael ei gynnal yn awr, ac rwy’n hyderus y byddaf yn cael fy nghanfodd yn ddieuog o dorri unrhyw reolau ac o ddrwgweithredu.”