Defnyddiodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, gynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mercher 24 Mehefin) i bwysleisio bod y rheol dau fetr yn dal i fod mewn grym yng Nghymru ac i drafod goblygiadau hynny i’r byd addysg.

Daw hyn wedi i Boris Johnson gyhoeddi y bydd y rheol dau fetr yn cael ei llacio yn Lloegr, gyda rheol “un metr a mwy” yn dod i rym.

“Rydym am gadw’r rheol am y tro gan ein bod o’r farn mai dyna’r ffordd orau o gadw Cymru yn ddiogel a chyfyngu ar ledaeniad y feirws,” meddai Kirsty Williams.

“Wrth gwrs byddwn yn parhau i adolygu hynny.”

Aeth ymlaen i esbonio na fyddai hynny’n llwyr ddatrys y broblem yn y sector addysg:

“Mae hefyd yn bwysig cydnabod, hyd yn oed os gallwn symud i reol un metr, y bydd hynny’n dal i gyflwyno heriau gwirioneddol o ran cael [yr holl blant] nôl i’r ystafell ddosbarth.

“Hyd yn oed gydag un metr, ni fydd yn normal [fel o’r blaen].”

Dim wythnos ychwanegol am “amryw resymau”

Mae cynllun Llywodraeth Cymru i ymestyn y tymor ysgol am wythnos ychwanegol ar chwâl, oherwydd pryder ymhlith undebau am gytundebau staff.

Dywedodd y Gweinidog Addysg am hyn: “Mae athrawon a staff eraill wedi gweithio’n galed i roi cynlluniau ar waith, ond am amryw resymau nid yw awdurdodau lleol wedi gallu parhau â’r cynlluniau hynny”.

“Parchu barn rhieni”

Bydd Llywodraeth Cymru yn “parchu barn rhieni” wrth greu cynlluniau ar gyfer ailagor ysgolion, yn ôl Kirsty Williams.

“Mae’n bwysig iawn, gan weithio gyda’n hysgolion, ein bod ni’n magu hyder rhieni fel eu bod nhw eisiau […] anfon eu plant yn ôl.

“Ar hyn o bryd, mater i rieni yw hynny, a byddwn yn adolygu hynny cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.”

“Cymysgedd” o ddysgu am beth amser

Dywedodd Kirsty Williams ei bod hi’n bosib y bydd plant yn mynd yn ôl i’r ysgol fel yr arfer mis Medi, cyn pwysleisio mae amcan Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod y coronaferiws yn cael “cyn lleied o effaith â phosib ar addysg plant a phobl ifanc”.

“Bydd yn rhaid i ni gynllunio ar gyfer sawl opsiwn,” meddai wrth y gynhadledd “ond byddwn yn parhau i ddilyn y wyddoniaeth. Dydw i ddim yn diystyru unrhyw beth.”

Ond rhybuddiodd y Gweinidog Addysg y byddai angen “parhau gyda chymysgedd o ddysgu ar-lein a wyneb-yn-wyneb […] am beth amser.”