Wrth i ni baratoi at Ŵyl Golwg y penwythnos yma, rydyn ni wedi bod yn rhannu rhai o’r clipiau fideo a chyfweliadau sydd wedi bod ar Ap Golwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda chi.
Bydd y rheiny ohonoch sydd yn lawrlwytho Ap Golwg i’ch teclynnau electronig bob wythnos eisoes yn gyfarwydd â rhai o’r clipiau fideo, cyfweliadau a thraciau sain, ac orielau lluniau ychwanegol sydd yn dod fel rhan o’r rhifynnau hynny.
Ond i’r rheiny ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â’r cynnwys ychwanegol sydd ar gael ar yr Ap, dyma gyfle i chi gael cip ar beth rydych chi wedi’i fethu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ddoe fe welsom ni gyfweliadau â Sion Jobbins, Gwenllian Lansdown Davies, Phyllis Price a Dylan Rowlands – a heddiw, mae naws gwleidyddol i’r cyfweliadau:
Elfyn Llwyd a Hywel Williams – Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru
Bu Elfyn Llwyd a Hywel Williams, Aelodau Seneddol Plaid Cymru, yn sgwrsio â Golwg yn ystod eu cynhadledd wanwyn yn gynharach eleni.
Mae’r pynciau sydd o dan sylw yn berthnasol o hyd, fodd bynnag, gydag Elfyn Llwyd yn trafod adroddia Comisiwn Silk a rhagor o ddatganoli, a bygythiad Ukip yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Mae Hywel Williams hefyd yn troi’i lygad tuag at yr etholiad cyffredinol, gan obeithio bod ei blaid yn medru ennill rhywfaint o dir yn erbyn Llafur yn 2015 – ac mae’i sylwadau am refferendwm annibyniaeth yr Alban hefyd yn amserol.
Owen Smith – Cynhadledd Wanwyn Llafur Cymru
Cafodd sefyllfa’r Alban hefyd sylw gan yr Aelod Seneddol Owen Smith yng nghynhadledd wanwyn y Blaid Lafur – ond trafod diwygio Fformiwla Barnett oedd e, nid annibyniaeth.
Yma, mae’n esbonio pam nad oes unrhyw addewid wedi’i wneud eto ynglŷn â diwygio’r ffordd mae Cymru’n cael ei hariannu.
Hywel Jones – Y Gynhadledd Weithredol
Ym mis Gorffennaf fe gynhaliodd Cymdeithas yr Iaith eu Cynhadledd Weithredol, i drafod dyfodo yr iaith Gymraeg mewn nifer o feysydd ac ystyried y camau nesaf sydd angen eu cymryd.
Yr ystadegydd Hywel Jones oedd y cyntaf i siarad, ac yma mae’n trafod ei ddadansoddiad o’r Cyfrifiad ac yn benodol y ffigyrau mewnfudo.
Rebecca Williams – Y Gynhadledd Weithredol
Roedd Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC yn un arall o’r siaradwyr yn y gynhadledd, ac yma mae hi’n rhoi ei barn ar gyfyngiadau yn y ddarpariaeth addysg, ac yn benodol gyda Chymraeg Ail Iaith.
Toni Schiavone – Y Gynhadledd Weithredol
Un arall o siaradwyr y gynhadledd, Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith, yn trafod y Bil Cynllunio.
Robin Farrar – Y Gynhadledd Weithredol
Ar ddiwedd y gynhadledd, sgwrs â chadeirydd Cymdeithas yr Iaith Robin Farrar i grynhoi beth a glywyd a holi beth yw’r camau nesaf i’r mudiad.