Mae cwmni John Lewis wedi cyhoeddi elw sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf.
Gwnaeth y cwmni elw o 12.1% yn ystod y cyfnod diwethaf, sy’n cyfateb i £129.8 miliwn hyd at Orffennaf 26.
Roedd elw gweithredol o 62% i £56.3 miliwn yn yr un cyfnod, gan fod cynnydd yng ngwerthiant yr adran nwyddau cartref a gwerthiant ar-lein.
Newyddion cymysg i archfarchnadoedd
Ond roedd newyddion drwg i archfarchnad Waitrose, sydd wedi cyhoeddi bod eu helw i lawr 9% yn yr un cyfnod i £145.2 miliwn.
Maen nhw’n dweud mai cynnydd o ran buddsoddiad mewn canghennau ac effaith y farchnad fasnachu sy’n gyfrifol am y gwymp.
Mae’r archfarchnad yn dweud eu bod nhw wedi perfformio’n well na gweddill y farchnad yn y cyfnod, ac mae’n cymharu’n dda â brandiau Tesco a Sainsbury’s.
Ar ddechrau ail hanner y flwyddyn, mae gwerthiant Waitrose i fyny 0.9%, ac fe fu cynnydd o 9.7% yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf yng ngwerthiant y cwmni yn eu siopau.
Fe gyhoeddodd archfarchnad Morrison’s bore ma bod eu helw wedi gostwng 51%.