Mae byddin Pacistan yn parhau gyda’i hymgyrch i achub cannoedd o bobol sy’n gaeth yn eu cartrefi yn dilyn llifogydd gwaethaf y wlad ers 50 mlynedd.
Hyd yn hyn, mae 461 o bobol wedi cael eu lladd a miloedd wedi’i hanafau yn ardal y Kashmir yng ngogledd India a Pacistan.
Mae achubwyr yn y ddwy wlad wedi bod yn defnyddio hofrenyddion a chychod i geisio cyrraedd degau o filoedd o bobol sy’n wedi cael eu caethiwo ers i’r tywydd garw ddechrau ar 3 Medi.
Dywedodd Ahmad Kamal, llefarydd ar ran yr Awdurdod Rheoli Argyfwng: “Mae’r sefyllfa yn parhau i fod yn argyfyngus wrth i’r dŵr wneud ei ffordd i diroedd gwastad yr ardal gan foddi mwy a mwy o bentrefi.”
Mae disgwyl i’r llifogydd gyrraedd ardal Sindh yn ddiweddarach yn wythnos hon.