Oscar Pistorius yn ei ddagrau yn y Llys yn Pretoria
Mae barnwr wedi dyfarnu bod yr athletwr Oscar Pistorius yn ddieuog o lofruddio ei gariad Reeva Steenkamp yn fwriadol.
Dywedodd y barnwr, Thokozile Masipa, nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi honiad yr erlyniad fod yr athletwr wedi bwriadu llofruddio’r fodel yn ei gartref yn oriau man 14 Chwefror, 2013 yn dilyn ffrae.
Mae Pistorius, 27, hefyd wedi ei gael yn ddi-euog o lofruddio Reeva Steenkamp yn anfwriadol.
Ond mae’n dal i wynebu cyhuddiad o ddynladdiad a throseddau’n ymwneud a drylliau.
Fe allai’r barnwr hefyd ei gael yn ddi-euog o’r holl gyhuddiadau os ydy hi’n credu bod yr athletwr wedi gwneud camgymeriad trasig.
Mae Oscar Pistorius wedi gwadu llofruddio Reeva Steenkamp gan ddweud ei fod wedi ei lladd trwy gamgymeriad ar ol ei saethu trwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartref, gan gredu mai lleidr oedd hi.
Roedd Pistorius yn ei ddagrau wrth i’r barnwr gyflwyno ei rheithfarn.
Dywedodd y barnwr: “Roedd y diffynydd yn credu fod ei fywyd mewn perygl. Ni ellir ei gael yn euog o lofruddiaeth.”