Mae cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd heddiw i drafod beth fyddai’r goblygiadau i Gymru a gweddill gwledydd Prydain pe bai’r Alban yn annibynnol.

Bydd refferendwm ar ddyfodol yr Alban yn cael ei gynnal ar Fedi 18.

Ymhlith y siaradwyr yn y gynhadledd, sy’n cael ei threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig,  fydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams.

Yn ymuno â nhw fydd yr Aelod Cynulliad Llafur, Leighton Andrews a Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick.

Bydd y gynhadledd hefyd yn ymchwilio i effaith rhoi rhagor o bwerau i’r Alban ar Gymru pe bai’r Alban yn pleidleisio ‘Na’.

Yn agor y gynhadledd fydd Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, fydd yn trafod yr amryw bolau piniwn sydd wedi cael eu cynnal ers i’r refferendwm gael ei gyhoeddi.

Dywedodd wrth Golwg360 ei fod yn disgwyl i’r canlyniad fod yn agos iawn.

“Mewn gwirionedd, rwy’n credu y bydd e’n agos iawn, er na ddylai e ddim bod, gan y dylai’r ‘Na’ fod yn ennill yn hawdd.

“O edrych ar y polau hirdymor, sef y flwyddyn neu’r deunaw mis diwethaf, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn i’r hyn sydd wedi digwydd yn y pedwar mis diwethaf.”

‘Daeargryn gwleidyddol’

Dywedodd ei fod yn disgwyl “daeargryn gwleidyddol” pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol ar ôl y refferendwm.

“Os oes pleidlais ‘Ie’, yna fe fydd daeargryn gwleidyddol o dan y Deyrnas Gyfunol, ond mae’n anodd iawn darogan beth fydd y goblygiadau i Gymru.

“Wrth gwrs, mae Plaid Cymru’n gobeithio cynyddu crediniaeth y syniad o annibyniaeth i Gymru, ond does dim tystiolaeth mai dyna fydd yn digwydd ar hyn o bryd.

“O ran Lloegr, mae’n anodd unwaith eto I ddarogan sut fydd y berthynas gyda Gogledd Iwerddon a Chymru’n newid.”

Mae Roger Scully yn wfftio gonestrwydd y syniad o gyflwyno ‘devo-max’, sef rhoi rhagor o bwerau i’r Alban pe bai’n aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Dydy’r syniad jyst ddim yn gredadwy, a dydw i ddim yn rhagweld y bydd San Steffan yn cyflwyno ‘devo-max’.

“Mae’n bosib y caiff Cymru ragor o bwerau ond mae’n anodd darogan ar hyn o bryd.”