Ford Fiesta
Mae nifer y cerbydau sydd ar y ffyrdd wedi codi i’r lefel uchaf erioed, yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Prydain.

Roedd mwy na 35 miliwn o gerbydau cofrestredig yn teithio ar y ffyrdd erbyn diwedd 2013, sy’n cynnwys 29 miliwn o geir, 3.3 miliwn o faniau a 1.2 miliwn o feiciau modur.

1.46 o geir gafodd eu cofnodi yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, mae’r ffigwr wedi codi’n raddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf o ystyried mai 25.23 o gerbydau cofrestredig oedd ar ffyrdd Prydain ddeng mlynedd yn ôl.

Y Ford Fiesta yw’r car mwyaf poblogaidd i yrwyr Prydain, yn ôl gwefan carubuyer. Mae 83,664 ohonyn nhw wedi cael eu gwerthu yn 2014 hyd yn hyn.