Alex Salmond
Mae Prif Weinidog Yr Alban, Alex Salmond wedi dweud bod swyddi’n ddiogel o fewn cwmni bancio RBS, er gwaethaf cynlluniau i symud rhannau o’r cwmni i Loegr pe bai’r Alban yn annibynnol.
Mae Salmond wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o fanteisio ar gyhoeddiad y cwmni at eu dibenion gwleidyddol eu hunain i bledio achos yr ymgych ‘Better Together’.
Mae RBS a Lloyds wedi dweud eu bod nhw’n barod i ystyried cofrestru yn Lloegr yn dilyn y refferendwm ar Fedi 18.
Ond dywedodd Alex Salmond wrth y BBC heddiw fod prif weithredwr RBS yn bwriadu cadw swyddi yn Yr Alban.
Mae’n honni mai ffynhonnell o fewn Llywodraeth Prydain sy’n codi bwganod a’i fod yn “rhan o ymgyrch wleidyddol yn ystod y refferendwm hwn gan Lywodraeth y DU”.
Mae Grwp Bancio Lloyds, sy’n cynnwys Halifax a Bank of Scotland, yn dweud y bydd yn angenrheidiol symud rhannau o’r cwmni i Loegr yn sgil pleidlais o blaid annibyniaeth.
Ond mae Ysgrifennydd Cyllid Yr Alban, John Swinney wedi dweud ei fod e’n hyderus na fydd y banc yn gadael y wlad, a bod modd dod i gytundeb yn sgil pleidlais ‘Ie’.