Dathlu llwyddiant athletwyr Cymru ym Mae Caerdydd neithiwr
Cafodd digwyddiad i ddathlu llwyddiant athletwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd neithiwr.

Cafodd yr athletwyr eu croesawu i adeilad y Cynulliad gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler, ac fe dderbyniodd yr athletwyr fedalau arbennig i nodi’r achlysur.

Roedd gwledd o adloniant ar y noson, gan gynnwys perfformiadau gan y pedwarawd pres o’r Coleg Cerdd a Drama, Bone Appétit, y band Baby Queens a’r unawdydd Mari Wyn Williams.

Mynegodd Carwyn Jones ei falchder yn “llwyddiannau anhygoel” Cymru yn y gystadleuaeth, ac fe ddywedodd fod “eu dyfalbarhad a’u hysgogiad wedi talu ffordd”.

Enillodd Cymru 36 o fedalau yn Glasgow, y nifer fwyaf erioed i Gymru mewn unrhyw Gemau.

Ychwanegodd fod yr achlysur yn “ddathliad priodol o’u cyflawniadau gwych”.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler ei bod yn “anrhydedd fawr” cael cynnal y digwyddiad ym Mae Caerdydd.

“Mae ein hathletwyr yn deyrnged i Gymru ac yn arwyr gwych i’r plant a phobol ifanc yn y dorf heno.”

Dywedodd capten tîm Cymru, Aled Sion Davies: “Roedd yn anrhydedd fawr iawn cael bod yn gapten ar dîm Cymru wnaeth dorri record yn Glasgow ac rwy mor hapus i weld pawb yn dod at ei gilydd eto mis ar ôl y digwyddiad.

“Mae’n wych gweld y cyhoedd yn ein cefnogi ni trwy ddod heno i ddathlu ein llwyddiant – mae’r awyrgylch yn wych, jyst fel y ‘buzz’ yn Glasgow!”

“Roedd y Gemau’n fythgofiadwy, gyda pherfformiadau oedd wedi gwir ysbrydoli.

“Rwy jyst mor falch a hoffwn i ddiolch i bawb wnaeth cynrychioli a chefnogi Tîm Cymru ar ein taith i Gemau’r Gymanwlad wnaeth dorri record.”