Mae tri o’r Elyrch wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau misol Uwch Gynghrair Barclays yn dilyn dechrau addawol i’r tymor.

Mae Nathan Dyer a Gylfi Sigurdsson ar restr fer o bump chwaraewr ar gyfer Chwaraewr y Mis, tra bod y rheolwr Garry Monk wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Rheolwr y Mis yn ei fis llawn cyntaf fel rheolwr parhaol.

Yng nghategori rheolwr y mis, fe fydd Monk, sydd wedi arwain ei dîm i dair buddugoliaeth allan o dair gêm, yn herio rheolwr Chelsea Jose Mourinho, rheolwr Aston Villa Paul Lambert a’r Cymro Mark Hughes, rheolwr Stoke.

Yng nghategori Chwaraewr y Mis, mae Nathan Dyer a Gylfi Sigurdsson yn mynd benben ag ymosodwr Chelsea Diego Costa, chwaraewr canol-cae Chelsea Cesc Fabregas ac ymosodwr Aston Villa Andreas Weimann.

Mae Dyer wedi sgorio tair gôl yn yr Uwch Gynghrair hyd yma, tra bod Sigurdsson wedi sgorio un ac wedi cynorthwyo pedair.

Bydd yr enillwyr yn cael eu henwi fory, wrth i’r Elyrch herio Chelsa yn eu gêm nesaf dros y penwythnos, gyda’r ddau yn gydradd gyntaf yn yr Uwch Gynghrair.

Lloegr

Yn y cyfamser, mae papur newydd y South Wales Evening Post wedi estyn gwahoddiad i reolwr Lloegr, Roy Hodgson i Abertawe i wylio Dyer, Nathan Routledge a Jonjo Shelvey yn y gobaith y bydd e’n dewis y tri yn ei garfan nesaf.

Mae’r triawd wedi bod yn allweddol i’r Elyrch y tymor hwn, gyda’r wasg yn gyffredinol yn awgrymu mai nawr yw’r amser i roi’r cyfle iddyn nhw ar y llwyfan rhyngwladol.

Fel rhan o’r ymgyrch i’w ddenu i Abertawe ac i Stadiwm Liberty, mae’r Evening Post yn dweud bod gwestai, cwmni ceir moethus a hyd yn oed siop trin gwallt yn barod i faldodi Hodgson pe bai e’n dod i’r ddinas.

Mae Hodgson wedi’i feirniadu am nad yw e wedi bod i Abertawe ers cael ei benodi’n rheolwr Lloegr.