Cwpan Ryder
Mae’r tlws fydd yn cael ei gyflwyno i enillwyr Cwpan Ryder ddiwedd y mis wedi cyrraedd cwrs Gleneagles yn Yr Alban.

Cafodd y tlws ei gludo i’r cwrs mewn hofrennydd ac fe fydd yn cael ei arddangos yng ngwesty Gleneagles cyn i’r twrnament ddechrau ar Fedi 26.

Daeth taith y tlws i ben heddiw, wedi iddo fynd i bob cwr o’r Alban ar ei ffordd i’r cwrs byd enwog yn Sir Perth.

Mae mwy na 15,000 o seddi wedi cael eu gosod o amgylch y cwrs erbyn hyn, ac mae pebyll lletygarwch wedi cael eu codi.

Mae disgwyl i’r gystadleuaeth gyfrannu miliynau o bunnoedd i economi’r Alban.

Dywedodd prif weithredwr Visit Scotland, Malcolm Roughead: “Yn nhermau effaith economaidd, rydyn ni wedi edrych ar gystadlaethau blaenorol Cwpan Ryder yn Iwerddon a Chymru ac rwy’n credu mai’r ffigwr yng Nghymru oedd oddeutu £82.5 miliwn ac rydyn ni’n hyderus o sicrhau hyd yn oed mwy o arian.”