Andorra 1 – 2 Cymru

Roedd yn gêm ddigon heriol i Gymru yn Andorra yng ngêm ragbrofol gyntaf Pencampwriaeth Ewrop 2016 heno.

Wedi dechrau bywiog gan yr ymwelwyr, roedden nhw gôl ar ei hôl hi wedi dim ond 6 munud.

Ildiodd Neil Taylor gic o’r smotyn flêr o dafliad gan y tîm cartref, a rhwydodd eu capten hwythau, Antoni Lima Solá yn rhwydd.

Roedd Cymru’n cael trafferth addasu i’r cae artiffisial, a chyfleoedd yn brin.

Er hynny, roedden nhw’n gyfartal wedi 22 munud diolch i beniad ardderchog Gareth Bale o groesiad Ben Davies.

Bale i’r adwy

Doedd yr ail hanner fawr gwell i Gymru, wrth i’r chwaraewyr gael trafferth i reoli’r gêm yn erbyn y tîm sy’n rhif 199 yn rhestr detholion y byd.

Roedd nifer o chwaraewyr amlwg yn tan-berfformio – roedd Aaron Ramsey’n dawel, ac Ashley Williams yn gwneud camgymeriadau anarferol.

Er hynny, roedd un chwaraewr yn bygwth yn rheolaidd – a Gareth Bale oedd hwnnw.

Seren Real Madrid oedd yr unig un yn nhîm Cymru oedd yn peri problemau gwirioneddol i’r tîm cartref, ac yn raddol roedd yn dod yn fwyfwy amlwg yn yr ail hanner.

Creoedd Bale gyfle gwych i Andy King, rhediad pwrpasol ar yr asgell dde yn arwain at groesiad bron a bod yn berffaith i’r postyn pellaf…ond King yn methu a chael peniad glân ar y bêl.

Roedd amser yn prysur ddiflannu, a Chymru’n dechrau edrych yn ofidus.

Cyflwynodd Chris Coleman asgellwr ifanc cyffrous Fulham, George Williams gydag ychydig dan chwarter awr yn weddill.

Gwaeth Williams wahaniaeth yn syth gan  ychwanegu cyflymder i ymosod Cymru.

Roedd amddiffyn y tîm cartref yn ei chael hi’n anodd dal Williams, ac enillodd y gŵr ifanc gic rydd wrth ymyl cwrt Andorra wedi tacl hwyr gan amddiffynwr.

Yn anochel, camodd Bale ymlaen a gafael yn y bêl yn syth. Siomedig oedd ei ymdrech, yn syth at y golwr ond cafodd ail gyfle wedi i un o amddiffynwyr Andorra ruthro o’r wal cyn i’r gic gael ei chymryd.

Doedd Bale ddim am wneud yr un camgymeriad ddwywaith, a chwipiodd y gic rydd i gornel uchaf y rhwyd.

Roedd rheolwr Cymru, a rhai o’r chwaraewyr wedi dweud cyn y gêm y byddai unrhyw fath o fuddugoliaeth yn gwneud y tro yn Andorra, ac roedden nhw’n ymddangos yn ddigon bodlon i setlo am y sgôr o 2-1.

Amgylchiadau anodd

Cyfaddefodd Chris Coleman wedi’r gêm bod y cae artiffisial wedi achosi problemau i Gymru.

“Mi allai ddweud rŵan, pan gyrhaeddon ni yma a gweld y cae mi wnaeth fy nghalon i suddo” meddai Coleman.

“Tydi hwn ddim yn gae da, ac yn fy marn i ddylai o ddim cael ei ddefnyddio ar gyfer gemau rhyngwladol.”

“Dwi’n falch gyda’r ffordd y gwnaethon ni ennill y canlyniad yma – dyma’r tri phwynt roedden ni eisiau.”

Awgrymodd seren Cymru fod yr amgylchiadau’n rai anodd i’r chwaraewyr.

“Mae’n rhaid i chi ddod i lefydd fel hyn a sicrhau buddugoliaeth” meddai Gareth Bale wedi’r gêm.

Yn sicr bydd Cymru’n ddiolchgar bod eu dwy gêm nesaf ym mis Hydref yn rhai cartref yng Nghaerdydd, yn hytrach nag ar gae plastig yn Andorra.