Blog ystadegol diweddaraf Dafydd Elfryn, sy’n ceisio canfon sir hapusaf Cymru …
Pob blwyddyn, mae’r llywodraeth yn cynnal arolwg cenedlaethol sy’n holi’r boblogaeth am nifer o agweddau gwahanol o fywyd yng Nghymru (linc).
Mae’r llywodraeth yn defnyddio’r canlyniadau yma wedyn i fonitro perfformiad y siroedd, ac i raglennu am y dyfodol.
Yn fras, mae’r unigolion sydd yn cymryd yr arolwg yn ateb y cwestiynau unai drwy roi marc allan o ddeg, neu weithiau canran.
Nes i feddwl y bysa’n reit ddiddorol defnyddio’r atebion yma i drio canfod ble ‘di’r lle hapusaf i fyw yng Nghymru.
Fel dwi wedi sôn, mae’r arolwg yn eang iawn, ond ar gyfer y dadansoddiad yma, nes i ddewis defnyddio’r tablau canlynol:
- Boddhad Gyda Bywyd yn Gyffredinol – (tabl 35)
- Hapus Gyda’ch Sefyllfa Ariannol – (tabl 36)
- Hapus Gyda’ch Cartref – (tabl 37)
- Hapus Gyda’ch Gwaith – (tabl 38)
- Digon o Amser Hamdden – (tabl 40)
- Hapus Gyda’r Amgylchedd – (tabl 42)
- Bywyd Gwerth Ei Fyw – (tabl 43)
- Ddim yn Teimlo’n Drist – (tabl 45)
- Teimlo Mewn Hedd – (tabl 46)
- Ddim yn Teimlo’n Isel – (tabl 47)
- Teimlo’n Hapus – (tabl 48)
Canlyniadau’r arolwg
Mae’r graffiau yn y slideshow isod yn dangos perfformiad pob sir ymhob cwestiwn (rhyw fath o “league table” canlyniadau).
Created with flickr slideshow.
Dadansoddi’r Canlyniadau
Gan fod pawb yn ateb y cwestiwn gyda marc allan o ddeg, yr unig beth oedd angen i mi wneud oedd adio’r ffigyrau yma i fyny ar draws pob cwestiwn i gyrraedd y cyfanswm.
I wneud pethe’n haws, nes i gyfieithu’r pwyntiau terfynol yma wedyn i be dwi’n alw yn “Canran Hapusrwydd” pob sir!
Dyma’r canlyniad terfynol – felly llongyfarchiadau i Sir Benfro, Sir Hapusaf Cymru!
Y canlyniadau ar ffurf mapWrth edrych yn fras ar y canlyniadau, mae’n ymddangos bod Cymru yn wlad hapus ar y cyfan. Y sgôr isaf yw 68.9% gan Merthyr Tudful druan – sydd ddim yn rhy ddrwg, yn enwedig wrth feddwl fod y sir ‘Hapusaf’, Sir Benfro, ond yn sgorio ychydig llai na 10% yn fwy, gyda 78.2%.
Yn arwynebol hefyd, mae siroedd y De i’w gweld ychydig llai bodlon ar eu bywyd, gyda mwy o’r lliwiau tywyll yn ymddangos yno.
Beth sy’n creu Hapusrwydd?
I fynd gam ymhellach, nes i edrych os oedd unrhyw batrwm i weld rhwng y siroedd hapus (a thrist). Roedd gen i ddata wrth law o wefan StatsWales am y Boblogaeth, Niferoedd yn Siarad Cymraeg, Cyflogau Blynyddol a Nifer Di-waith.
Eto, i wneud pethe’n haws, nes i rannu’r canlyniadau i fyny i bedwar quartile, neu chwarter (linc) – wedyn dim ond pedwar elfen sydd angen ei ddadansoddi ymhob siart.
Gallwch weld y pedwar graff olaf ar y linc isod.
Mae’r siart cyntaf yn dangos bod poblogaeth lai yn tueddu i greu pobl hapusach. Efallai bod hyn yn golygu bod pobl sydd yn byw yn y wlad yn hapusach na’r rhai mewn trefi?
Arian ddim yn gwneud pobl yn hapusach?
Yn ôl yr ail siart, mae’r Cymry Cymraeg yn dipyn hapusach na rhai di-Gymraeg. Rheswm gwych arall i bobl ddysgu’r iaith!
Yn syfrdanol, dyw maint cyflog ddim i weld yn cael effaith mawr ar hapusrwydd pobl (eto, dwi’n siŵr bod ennill y loteri ddim yn beth drwg chwaith!)
Yn olaf – ac yn fwy difrifol efallai – mae’n ymddangos bod ardaloedd gyda diweithdra uwch yn dipyn mwy “trist”. Fydd hyn ddim yn syndod i neb – nid yn unig mae diweithdra yn creu straen ariannol mawr ar bobl, ond mae hefyd yn gwneud pobl deimlo’n ddiwerth ac isel.
Gallwch weld graffiau Dafydd Elfryn yn fanylach, a darllen mwy ganddo, ar ei flog personol http://www.dafyddelfryn.co.uk/blog/.