Bryn Parry Jones
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cadarnhau bod y Prif Weithredwr Bryn Parry Jones yn ôl yn ei waith ar ôl cyfnod absenoldeb o dair wythnos.

Cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor, Jamie Adams, ar 15 Awst fod Bryn Parry Jones yn cymryd seibiant o’i swydd “o ystyried y dyfalu sydd wedi bod ynglŷn â’i swydd.”

Roedd yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru i honiadau bod Bryn Parry Jones a phrif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, wedi derbyn taliadau o dros £50,000 yn anghyfreithlon.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Fe allwn gadarnhau bod y Prif Weithredwr yn gweithio o adref.”

Cefndir

Ym mis Ionawr eleni fe ddechreuodd Heddlu Sir Gaerloyw ymchwilio ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ddweud bod Bryn Parry Jones a phrif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, wedi derbyn taliadau o dros £50,000 yn anghyfreithlon.

Cyhoeddwyd y byddai’r heddlu yn cychwyn ail-ymchwilio i’r honiadau ar ôl derbyn gwybodaeth newydd, ond na fyddai Cyngor Sir Penfro yn cymryd camau pellach i geisio adfer yr arian a dalwyd i Bryn Parry Jones.