Credir mai ymosodiad gan siarc fu’n gyfrifol am farwolaeth dyn oddi ar arfordir dwyreiniol Awstralia, meddai’r awdurdodau.

Roedd y gwasanaethau brys wedi derbyn adroddiadau bod dyn yn ei 40au wedi cael ei frathu’n ddifrifol yn ei goes.

Cafodd y dyn ei dynnu o’r dŵr i gael triniaeth gan feddyg ond roedd eisoes wedi marw.

Credir bod y dyn wedi bod yn syrffio ar ei ben ei hun yn Byron Bay – lleoliad syrffio enwog tua 500 milltir i’r gogledd o Sydney.

Dyma’r ail waith i berson gael ei ladd gan siarc yn Awstralia eleni ar ôl i ddynes 63 mlwydd oed gael ei lladd ym mis Ebrill.

Er bod siarcod yn gyffredin oddi ar arfordir Awstralia, mae cyfartaledd o lai na dau’r flwyddyn wedi cael eu lladd ganddyn nhw dros y degawdau diwethaf.

Ond mae ymosodiadau yn dod yn fwy cyffredin. Cafodd dau ddyn eu lladd mewn llai nag wythnos ym mis Tachwedd y llynedd – yr unig farwolaethau yn 2013.