Symud cyrff o safle'r trychineb yn yr Wcrain
Dywed arbenigwyr fu’n ymchwilio i ddamwain awyren Malaysia Airlines MH17 dros yr Wcráin heddiw bod gweddillion yr awyren yn “gyson â’r difrod fyddai rhywun yn ei ddisgwyl gan nifer fawr o wrthrychau pwerus sy’n taro’r awyren o’r tu allan”.

Mae’r arbenigwyr, o Fwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd (DSB), wedi cyhoeddi adroddiad rhagarweiniol heddiw i’r trychineb. Bu farw 298 o bobl gan gynnwys 10 o Brydeinwyr.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am y trychineb ond credir bod y Boeing 777 wedi cael ei tharo gan daflegryn a gafodd ei danio gan wrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia, wrth iddi hedfan dros yr Wcrain ar 17 Gorffennaf.

Meddai’r DSB fod llawer o weddillion yr awyren wedi cael eu dosbarthu dros ardal eang sy’n dangos fod y Boeing 777, oedd ar ei ffordd o Amsterdam i Kuala Lumpur, wedi chwalu yn yr awyr.

Dywedodd y DSB hefyd nad oedd blychau du’r awyren o safle’r ddamwain yn yr Wcrain yn dangos unrhyw dystiolaeth bod rhywun wedi ymyrryd gyda nhw cyn i’r arbenigwyr gyrraedd.

Doedd dim tystiolaeth chwaith bod rhywbeth wedi digwydd ar fwrdd yr awyren cyn i’r ddamwain ddigwydd.
Dywedodd y DSB bod angen ymchwiliad pellach yn y misoedd i ddod cyn y bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi.