Mochyn daear
Mae’r cynllun dadleuol i ddifa moch daear yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw wedi ail ddechrau eto eleni, cyhoeddodd y Llywodraeth heddiw.
Dyma’r ail flwyddyn o gynllun peilot pedair blynedd sy’n ymgeisio i atal lledaeniad TB mewn gwartheg.
Y llynedd roedd y cynllun yn anelu at ladd 70% o’r moch daear yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw trwy eu saethu.
Cafodd cyfanswm o 921 (40%) o foch daear eu lladd yn Swydd Gaerloyw a 940 (65%) eu saethu yng Ngwlad yr Haf.
Bu’r ddau gynllun peilot yn fethiant am eu bod wedi methu a lladd y targed o 70% o’r boblogaeth moch daear sydd ei angen i wneud y rhaglen ddifa yn effeithiol.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd hefyd yn cyflwyno cynllun i frechu moch daear mewn siroedd wrth ymyl y ddwy ardal.
O dan y cynllun – a fydd yn targedu siroedd yng nghanol Lloegr fel Swydd Gaer, Swydd Rhydychen a Hampshire – bydd pecyn o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys cyllid o hyd at 50% o gostau hirdymor ar gyfer brechu.
Ond mae ymgyrchwyr wedi beirniadu’r cynllun.
Dywedodd Dominic Dyer o’r Ymddiriedolaeth Moch Daear a Gofal ar gyfer y Gwyllt: “Mae hwn yn fuddugoliaeth i wleidyddiaeth dros synnwyr cyffredin a gwyddoniaeth.
“Ar ben hyn i gyd, dywedodd prif swyddog milfeddygol Cymru wrth gynhadledd yr Ymddiriedolaeth Moch Daear yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni gostyngiad o 48% yn nifer y gwartheg sy’n gorfod cael eu difa oherwydd TB yn y pum mlynedd diwethaf a hynny drwy gynyddu pa mor aml mae gwartheg yn cael eu profi am TB, ac felly’n sicrhau bod gwartheg sydd wedi cael eu heintio yn llai tebygol o gael eu symud o gwmpas.
“Yr ateb i’r llanast yn amlwg – canolbwyntio ar y gwartheg – ond mae’r Llywodraeth yn rhy ystyfnig i sylwi hynny.”