Mae adroddiad newydd yn dweud bod tlodi yn ffactor o bwys mewn achosion o farwolaethau plant yng Nghymru.
Meddai’r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cyfradd marwolaethau ymhlith plant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 70% yn uwch na’r rhai yn y rhannau cyfoethocaf.

Nod y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant ydy adnabod a disgrifio patrymau ac achosion marwolaeth plant ac argymell gweithredoedd i leihau’r risg o ffactorau y gellir eu hosgoi sy’n cyfrannu at farwolaethau plant.

Roedd yr adroddiad yn edrych ar farwolaethau plant yng Nghymru yn ystod 2012/13 pan fu farw 218 o blant – 64% ohonynt yn ystod eu blwyddyn gyntaf.

Mae’r rhaglen wedi darganfod bod plant mewn ardaloedd o dlodi yn fwy tebygol o gael problemau iechyd er bod lleihad wedi bod ym marwolaethau plant dros y 15 mlynedd diwethaf.

Problemau iechyd

Dywedodd Dr Ciaran Humphreys, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus, bod llawer o resymau pam bod plant ifanc mor fregus.

Meddai: “Os yw plant yn cael eu geni yn gynnar iawn, neu os cânt eu geni heb bwysau geni ddigon uchel, maen nhw’n agored iawn i broblemau iechyd mewn bywyd.

“Ac mae’r rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig yn fwy agored i’r mathau hynny o broblemau.”

Ond ychwanegodd mai beth sy’n peri pryder iddo yw bod y cysylltiad rhwng tlodi a marwolaethau plant yn un y gellir mynd i’r afael â hi.

Mae’r adroddiad, yr ail o’i fath, hefyd wedi darganfod bod achosion allanol o farwolaethau, fel damweiniau, hunanladdiad ac ymosodiadau, yn cyfrif am fwy na hanner y marwolaethau ymhlith plant rhwng 12 ac 17 mlwydd oed, ac oddeutu un o bob pum marwolaeth mewn plant sydd rhwng un ac 11 mlwydd oed.