Nigel Evans
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Nigel Evans, a gafwyd yn ddieuog o gyfres o droseddau rhyw, wedi rhoi addewid y bydd yn ymgyrchu dros ddioddefwyr anghyfiawnder ar ôl ennill cefnogaeth aelodau lleol ei blaid i amddiffyn ei sedd yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Cafodd Nigel Evans, sy’n wreiddiol o Abertawe, ei ail-ethol neithiwr, mewn pleidlais gudd o aelodau’r Blaid Geidwadol, fel eu hymgeisydd yn Ribble Valley yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Wrth siarad ar raglen Breakfast ar BBC1 y bore ma, dywedodd y byddai’n tynnu ar ei brofiad i ymgyrchu dros newid yn y gyfraith er mwyn atal y rhai sy’n cael eu hamau o droseddau rhag cael eu henwi’n gyhoeddus hyd nes eu bod yn cael eu cyhuddo’n swyddogol.
Meddai Nigel Evans: “Fe ddes i o hyd i gryfder mewnol drwy fynd drwy’r profiad caled hwn. Fe all eich dinistrio chi neu eich gwneud chi’n gryfach. Yn yr achos hwn, fe wnaeth fi’n gryfach.
“Rwy’n credu bod pobl wedi gweld fy mod i’n fwy penderfynol i barhau i fod yn Aelod Seneddol fel y gallaf siarad am rai o’r anghyfiawnderau sy’n digwydd.”
Roedd Nigel Evans wedi camu o’i swydd fel dirprwy lefarydd Tŷ’r Cyffredin wrth i’r achos llys yn ei erbyn gael ei gynnal.