darn o awyren Malaysia Airlines
Mae disgwyl i arbenigwyr fu’n ymchwilio i ddamwain awyren Malaysia Airlines dros yr Wcráin gyhoeddi adroddiad cychwynnol heddiw.
Fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan Fwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd (DSB) sydd wedi bod yn arwain yr ymchwiliad i’r trychineb. Bu farw 298 o bobl gan gynnwys 10 o Brydeinwyr.
Dywedodd y DSB y bydd gwybodaeth ffeithiol yn cael ei chyhoeddi heddiw ond bod angen ymchwiliad pellach yn y misoedd i ddod cyn y bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi.
Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am y trychineb ond credir bod y Boeing 777 wedi cael ei tharo gan daflegryn a gafodd ei danio gan wrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia, wrth iddi hedfan dros yr Wcrain ar 17 Gorffennaf.
Roedd awyren MH17 yn teithio o Amsterdam i Kuala Lumpur, gyda’r rhan fwyaf ar ei bwrdd yn dod o’r Iseldiroedd.
Nid yw’r DSB wedi gallu ymweld â safle’r ddamwain oherwydd nid oedd yn bosib sicrhau diogelwch yr ymchwilwyr mewn ardal lle mae’r gwrthdaro yn parhau.
Fe fydd yr adroddiad heddiw yn cynnwys y wybodaeth oedd ar focsys du’r awyren.