Carwyn Jones
Bydd Prif Weinidog Cymru yn yr Alban heddiw er mwyn galw ar drigolion y wlad i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth.
Bydd Carwyn Jones yn traddodi darlith am fanteision datganoli o fewn y DU y bore ma cyn iddo ymuno ag arweinydd a dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Johann Lamont ac Anas Sarwa, mewn digwyddiad ymgyrchu ar strydoedd Caeredin yn ddiweddarach.
Daw ymweliad Carwyn Jones a’r Alban ddiwrnod yn unig ar ôl i arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ymuno â Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, i ymgyrchu dros annibyniaeth.
Pwerau newydd
Hefyd heddiw, bydd amserlen fanwl yn cael ei chyhoeddi sy’n nodi pa mor gyflym y gallai pwerau newydd gael eu trosglwyddo i Holyrood os bydd yr Alban yn gwrthod annibyniaeth.
Bydd arweinwyr y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban yn ymuno gyda’i gilydd i wneud y cyhoeddiad allweddol y bore yma.
Ond mae’r ymgyrch Na wedi gwadu mai panig sy’n gyfrifol am y cyhoeddiad gan ei bod hi’n ymddangos y bydd hi’n ras agos iawn ar 18 Medi.
Arolwg barn newydd
Mae arolwg barn newydd a gyhoeddwyd gan TNS heddiw yn dangos bod gan yr ymgyrchoedd Ie a Na gefnogaeth o 41% yr un ymysg y rhai sy’n sicr o bleidleisio tra bod arolwg barn gan YouGov ddeuddydd yn ôl wedi rhoi’r ymgyrch Ie ar y blaen am y tro cyntaf.
Ond gydag ychydig dros wythnos i fynd tan y refferendwm, mae Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi wfftio’r amserlen newydd gan bleidiau San Steffan fel “llwgrwobrwyo” oherwydd bod yr ymgyrch Ie yn ennill tir ar lawr gwlad.
Amserlen
Fe wnaeth y cyn brif weinidog Gordon Brown sôn am yr amserlen arfaethedig i drosglwyddo pwerau newydd i’r Alban neithiwr gan ddweud y byddai gwaith yn dechrau yn syth ar ôl y refferendwm.
Meddai ei fod yn rhagweld cyhoeddi ”papur gorchymyn” gan Lywodraeth y DU yn nodi pob un o’r cynigion ar gyfer trosglwyddo pwerau cyn diwedd mis Hydref.
Byddai papur gwyn yn cael ei lunio ym mis Tachwedd, ar ôl cyfnod o ymgynghori, ac meddai y byddai’n disgwyl cymalau drafft ar gyfer deddfwriaeth i gael eu cyhoeddi ym mis Ionawr.
Ond bydd Alex Salmond yn annog ei gyd Albanwyr i wrthod hynny ac i bleidleisio dros annibyniaeth wrth iddo ymgyrchu yng Nghaeredin heddiw.
Bydd yn mynnu y byddai’r Alban annibynnol yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd gan ei fod yn cyfarfod cefnogwyr i’w ymgyrch o wledydd eraill a fydd yn datgan “rydym i gyd yn ddinasyddion Ewropeaidd”.
Cymaint yw’r pryder ymhlith gwleidyddion San Steffan nes bod rhai hyd yn oed wedi galw ar i’r Frenhines ddatgan ei barn, yn ôl y Daily Telegraph.
Ond dywedodd llefarydd y bydd y Frenhines yn aros yn niwtral.