Comisiynydd heddlu a throsedd De Swydd Efrog, Shaun Wright
Fe fydd comisiynydd heddlu a throsedd De Swydd Efrog, Shaun Wright, yn cael ei holi gan ASau heddiw ynglŷn â’r helynt cam-drin plant yn rhywiol yn Rotherham.

Roedd Shaun Wright yn gyfrifol am wasanaethau plant yn y dref am bum mlynedd cyn iddo ddechrau ei swydd bresennol.

Mae wedi wynebu galwadau cynyddol i ymddiswyddo yn dilyn adroddiad damniol i’r helynt a oedd wedi darganfod bod o leiaf 1,400 o blant yn Rotherham wedi cael eu cam-drin yn rhywiol dros gyfnod o 16 mlynedd.

Fe fydd Shaun Wright yn mynd gerbron y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref a fydd hefyd yn clywed tystiolaeth gan brif gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog David Crompton; uwch swyddog Cyngor Rotherham, Joyce Thacker; a phrif weithredwr yr NSPCC, Syr Peter Wanless, sy’n arwain yr adolygiad i’r modd yr oedd y Swyddfa Gartref wedi delio gyda honiadau o gam-drin.