Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru wedi cyhuddo’r blaid Lafur o gyhoeddi negeseuon cymysg am ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd (GIG ) yn nwylo’r Ceidwadwyr.

Dywedodd Elin Jones AC fod y gwahaniaeth rhwng datganiadau gan y Blaid Lafur yn yr Alban a’r hyn sy’n cael ei ddweud gan Blaid Lafur Cymru a Lloegr yn “beryglus ac anghyfrifol”.

Cafodd Alistair Darling, y cyn-Ganghellor Llafur ac arweinydd yr ymgyrch ‘Na’ yn yr Alban, ei gyhuddo o amddiffyn record y Torïaid ar y GIG, ar ôl iddo ddweud fod “gwario ar y GIG… wedi dal ati i gynyddu dros y pedair blynedd ddiwethaf dan y llywodraeth bresennol a chynyddu gwnaiff eto.”

Ond yn ôl Elin Jones, fe rybuddiodd Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Cymru, yn gynharach eleni fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i’r casgliad fod y rhagolygon ariannol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn “llwm”.

Honiadau

“Mae Llafur yn yr Alban yn honni y bydd popeth yn iawn fel y mae pethau dan y Torïaid. Fe wyddom oll fod penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn Lloegr ynghylch y GIG yn effeithio ar gyllid i’r cenhedloedd datganoledig a thrwy hynny ein gallu i dalu am wasanaethau cyhoeddus,” meddai’r AC.

“Mae’n niweidiol iawn i ASau ac ASau Llafur fod yn awgrymu i’r gwrthwyneb am ei fod yn cyd-fynd â’u hagenda nhw.”

Ychwanegodd: “Rhaid bod gwleidyddion Llafur yng Nghymru a Lloegr yn gwrido o gywilydd wrth gael eu tanseilio’n gyson gan eu cydweithwyr yn yr Alban.

“Mae’n bryd i’r Blaid Lafur roi eu tŷ mewn trefn ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol cyn iddi fod yn rhy hwyr. Os ydynt o ddifrif am achub y GIG, fe ddylen nhw fod yn glir fod toriadau a phreifateiddio’r Torïaid yn Lloegr yn fygythiad i’r GIG trwy’r Deyrnas Gyfunol gyfan.

“Dylai’r Gweinidog Iechyd felly ddatgan ei farn yn glir am y difrod mae’r Torïaid yn ei wneud i’r GIG a chondemnio barn ei gydweithwyr yn yr Alban.”