Leanne Wood a Nicola Sturgeon
Deg diwrnod cyn refferendwm yr Alban, mae arweinydd Plaid Cymru wedi ymuno a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, i alw ar drigolion y wlad i bleidleisio ‘Ie’ er mwyn diogelu’r Gwasanaeth Iechyd rhag toriadau gan y Torïaid.

Cyfeirodd Leanne Wood at doriadau i Wasanaeth Iechyd Cymru lle mae 3.6% wedi ei dorri mewn termau real gan San Steffan yn ystod cyfnod y Glymblaid mewn grym.

Ac fe ddywedodd y ddwy arweinydd mewn llythyr: “Heb annibyniaeth, fe fydd dyfodol y GIG o hyd wedi ei glymu i system aflwyddiannus San Steffan sy’n tanseilio gwasanaethau cyhoeddus.”

Bygythiad

Daw’r alwad wrth i’r Herald gyhoeddi llythyr wedi ei arwyddo gan 66 o weithwyr iechyd, sy’n rhybuddio yn erbyn bygythiad y Toriaid i breifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

“Fel mae’r arbenigwyr hyn yn dangos, mae bygythiadau cryf ledled Prydain i’r GIG, a dyw’r Alban ddim yn rhydd o hyn,” meddai Nicola Sturgeon.

“Mae’r Alban yn wlad gyfoethog iawn ac fe allwn fwy na fforddio i ariannu ein gwasanaeth iechyd ein hunain.”

Ychwanegodd Leanne Wood: “Er bod Carwyn Jones yn dweud na all yr Alban fod yn annibynnol, rwy’n credu y byddai’r wlad yn un o’r cyfoethocaf yn y byd petai’n annibynnol.

“Beth nad yw Carwyn Jones yn ei ddweud yw bod cyllid y GIG yn cael ei dorri yng Nghymru, ac mae o’n dweud bod hynny oherwydd toriadau o San Steffan.

“Mae’r refferendwm yn gyfle bythgofiadwy i’r Albanwyr ddechrau creu cymdeithas decach, fwy ffyniannus.”