David Cameron a Barack Obama yn yr uwch-gynhadledd yng Nghasnewydd
Mae cynghrair Nato yn parhau mor hanfodol i ddiogelwch y Deyrnas Unedig ag erioed yn sgil y bygythiadau yn yr Wcráin ac Irac, meddai David Cameron wrth Aelodau Seneddol heddiw yn dilyn yr uwch-gynhadledd yng Nghasnewydd dros y penwythnos.
Bu’r Prif Weinidog yn amlinellu’r cytundebau a wnaed yn ystod yr uwch-gynhadledd gan gynnwys sefydlu llu a fydd yn gallu ymateb yn gyflym, mewn unrhyw ran o’r byd, o fewn dau i bum niwrnod; ymarferiadau yn nwyrain Ewrop ac ymrwymiadau ariannol gan aelodau Nato i wario mwy ar fesurau amddiffyn.
Dywedodd wrth ASau bod Nato yn barod i roi cymorth dyngarol, diplomyddol a milwrol i’r llywodraeth newydd, cynhwysol yn Irac i geisio atal eithafwyr Islamic State. Mae’n cynnwys darparu arfau a hyfforddiant i filwyr Cwrdaidd.
O ran yr Wcráin fe groesawodd y cadoediad sydd wedi bod mewn grym ers dydd Gwener.
“Roedd uwch-gynhadledd Nato, rwy’n credu, yn llwyddiannus. Fe brofodd bod y sefydliad mor bwysig i’n diogelwch ag a fu yn y gorffennol,” meddai David Cameron.