Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cael gwybod eu bod nhw’n wynebu toriad pellach o £100,000 eleni.

Mae’n ychwanegol i chwarter miliwn sy’n cael ei dorri oddi ar grantiau i lyfrau a chylchgronau yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesa’.

Yn wahanol i’r toriadau diwethaf – pan gadwyd yr effeithiau i waith a swyddi’r Cyngor ei hun – bydd rhaid torri rhywfaint ar grantiau y tro yma.

Mewn llythyr i gyhoeddwyr, mae’r Swyddog Grantiau, Arwel Jones, yn esbonio y bydd yr arbedion fel a ganlyn:

• Grant Cyhoeddi Cymraeg £50,000
• Grant Cyhoeddi Saesneg £20,000
• Grant Canolog y Cyngor £30,000

Ychwanegodd: “Yn ogystal â’r ansicrwydd sy’n parhau ynglŷn â grant y Llywodraeth i’r Cyngor Llyfrau ar gyfer y flwyddyn nesaf cawsom newyddion drwg yn ddiweddar bod rhaid arbed £100,000 o fewn y flwyddyn ariannol bresennol.

“Rydym yn ffyddiog bod modd gwneud yr arbedion hyn eleni heb beryglu swyddi golygyddol a chyda cyn lleied â phosibl o effaith ar y rhaglenni cyhoeddi.”

Mae’r corff cenedlaethol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.