Ro’n i wedi clywed am FC Sankt Pauli flynyddoedd yn ôl, drwy wylio rhaglen ddogfen yn dilyn cefnogwyr ar y cyfandir. Tîm o Hamburg sy’n chwarae yn ail gynghrair Yr Almaen ydyn nhw ond er gwaetha’ llwyddiant prif dîm y ddinas, maen nhw’n dal i ddenu torf o dros 25,000 yn gyson.

Yn ardal dociau Hamburg mae’r Millerntor, cartref St. Pauli. I lawer o dwristiaid, mae’n adnabyddus fel ardal y ‘Reeperbahn’, ardal golau coch y ddinas. Mae traddodiad dosbarth gweithiol a meddylfryd eithaf rhyddfrydol yn yr ardal, ac ers y 1980au mae clwb St. Pauli wedi tyfu i fod yn glwb ‘cwlt’.

Traddodiad a ffordd o fyw

Dechreuodd y cefnogwyr ymfalchïo yn hanes a diwylliant yr ardal a bellach mae’r clwb yn ymfalchïo yn ei wleidyddiaeth adain-chwith a’i gysylltiad gyda cherddoriaeth pync. Cafodd y ffordd o fyw ‘amgen’ ei groesawu yma.

Oherwydd hyn, mae’r clwb yn denu cefnogaeth o bedwar ban byd. Yn wir, mae sawl ffrind ‘da fi sy’n mynd i Hamburg yn aml i wylio St. Pauli ac yn cwrdd mewn tafarn yn Llundain er mwyn trafod hynt a helynt y clwb pan nad ydynt yn gallu gwneud y daith.

O’r rhaglen ddogfen wyliais i, ro’n i wedi’n syfrdanu gyda’r gefnogaeth. Ro’n i jyst yn dechrau ymddiddori mewn gwleidyddiaeth ac roedd y baneri Che Guevara, y symbolau antiffasgaidd ymhob man, heb sôn am y sŵn aruthrol am oriau cyn ac ar ôl y gêm yn apelio’n arw ataf. Ro’n i wedi cael hyd i fy nghartref ysbrydol.

Ro’n i’n chwilio am eu canlyniadau bob wythnos a, chwarae teg i Mam, gês i grys y tîm fel anrheg Dolig rhai blynyddoedd yn ôl. Yn anffodus, cês i fyth gyfle i wneud y daith yno fy hun … tan y penwythnos d’wetha.

Popeth yn cwympo i’w le

Roedd hi’n benwythnos stag un o fy ffrindiau o Gaerdydd, oedd hefyd yn hoff o St. Pauli. Rwy’n ei gofio yn gwisgo’i grys ‘Brwydrwch Ffasgiaeth, Bwytwch Natsïaid’ i’r dafarn sawl tro. Dim ond un lle am y ‘stag’ felly. Hamburg.

Ydy, mae hi’n ddinas eithaf nodweddiadol ar gyfer penwythnosau stag, a doedden ni’r Cymry fawr gwell na’r criwiau arferol yn aros o gwmpas y Reeperbahn drwy’r penwythnos. Ond rhoddodd y penwythnos yma gyfle i mi wireddu breuddwyd.

O’r foment i ni gyrraedd ardal St. Pauli, roedd yn amlwg bod y tîm lleol wrth galon y brodorion. Roedd pob siop yn gwerthu’r crysau-T du gyda’r penglog ac esgyrn arnynt – symbol cefnogwyr St. Pauli. Ac mae siop y clwb ei hun yn gwerthu pob math o wahanol ddillad gyda symbolau gwrth-ffasgaidd.

Ar bob drws, ffenest, lamp a phostyn mae sticeri cefnogwyr St. Pauli neu fudiadau gwrth-ffasgaidd arall sydd wedi ymweld â’r ardal. Wrth gwrs, bu’n rhaid i mi ychwanegu sticeri Cymru a Clapton.

Wrth i ni deithio o dafarn i dafarn drwy’r penwythnos, roedd mwy a mwy o bobl yn gwisgo crysau St. Pauli ac, yn ddiddorol, roedd llu o ieithoedd gwahanol i’w clywed. Aethom i dafarn gyferbyn â’r maes oedd wedi’i blastro gyda sticeri, baneri a phob math o nwyddau pêl-droed.

Byw’r freuddwyd o’r diwedd

Bu’n rhaid casglu’r tocynnau fore Sul, oedd yn dipyn o her i’r rheini ohonom gafodd gwta bedair awr o gwsg. Ond, dwy awr cyn y gic gyntaf, dyna lle roeddwn i y tu fas i’r maes yn yr haul.

Gyda fy Almaeneg brith, llwyddais i ffeindio’r ciw iawn a dyna ni’n barod. Bendigedig. Yn amlwg, roedd yn rhaid i ni brynu cwrw a mwynhau sawru’r awyrgylch yn iawn.

Tu fewn i’r grownd roedd yna stondinau bwyd, cwrw a nwyddau di-rif. Roedd y prisiau yn llawer mwy rhesymol nag mewn unrhyw stadiwm ym Mhrydain i mi fynychu, €3 y peint, ac ro’n ni’n cael yfed yn y stand. Prynais grys-T hefyd, wrth gwrs.

Yn yr eisteddle, roedd hi hyd yn oed yn well. Er i ni fod yn yr ardal ryngwladol, dawel, doeddwn braidd yn gallu clywed fy mêt yn siarad ‘da fi. Roedd y gymysgedd o faneri ar y teras gyferbyn ac i’r chwith yn anhygoel.

Yn anffodus, doedd y gêm yn fawr o sioe. Ond cawsom lawer o hwyl yn gwneud hwyl am ben un o amddiffynwyr St. Pauli – dwi’n siŵr y byswn i wedi gwneud yn well ar fore Sul!

Collodd St. Pauli 3-0 i Aalen gyda braidd dim ysbryd y tu ôl i’r perfformiad, ond chwarae teg i’r cefnogwyr. Roedden nhw’n swnllyd ac yn chwifio’u baneri tan y funud olaf.

Balchder er colled

Roedd hi’n braf gweld chwaraewyr tîm Aalen yn mynd draw at eu cefnogwyr a dathlu yn eu plith, gyda’r cefnogwyr ar ben y ffens. Eto, mae’n rhaid i mi ddweud bod pethau o chwith yma ym Mhrydain, cymaint yw’r gwagle rhwng y chwaraewyr a’r cefnogwyr.

Yng ngêm ola’ tymor Clapton nos Fawrth, daeth un o ‘fois’ St. Pauli draw a’n rhybuddio fy mod yn ryw fath o jinx. Sori bois, nid fi oedd ar fai am benwythnos diwethaf, ac ie, bydda i yn fy ôl i Hamburg.

Gallwch ddilyn Rhys ar Twitter ar @HartleyR27.