Mae’r nifer o gwynion gan gleifion yn ysbytai Cymru wedi cynyddu o hyd at 231% dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law heddiw.

Dangosodd y data, a gafodd Plaid Cymru drwy gais Rhyddid Gwybodaeth, fod cwynion wedi cynyddu 188% ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a 114% yng Nghaerdydd a’r Fro.

Gwelwyd cynnydd o 56% yn y nifer o gwynion gan gleifion ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, cynnydd o 32% yng Nghwm Taf, cynnydd o 19% yn Betsi Cadwaladr a chynnydd o 5% yn Hywel Dda.

Powys oedd yr unig fwrdd iechyd i weld gostyngiad yn y nifer o gwynion yn y pum mlynedd diwethaf – er nad oedd ffigyrau ar gael ganddynt ar gyfer eleni.

Roedd y nifer fwyaf o gwynion yn delio â thriniaeth a diagnosis meddygol.

‘Dim syndod’

Meddai Kirsty Williams, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Yn anffodus, nid yw’r ffigyrau hyn yn syndod i mi. Mae’r gwaith achos ar broblemau iechyd yn fy nghymorthfeydd a’m blwch post wedi cynyddu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’n glir bod angen mwy o staff yn ein GIG – mae’r rhai sydd yno eisoes wedi’u gorweithio. Dyma pam rydw i’n ymgyrchu dros lefel isafswm staffio nyrsys yn ysbytai Cymru. Mae gan Gymru’r nifer leiaf o nyrsys i bob claf yn y DU – mewn nifer o achosion, nid oes gan nyrsys digon o amser i ddarparu lefel digonol o ofal. Mae Llywodraeth Lafur Cymru dal yn llugoer am y syniad ar gyfer lefel isafswm nyrsys, ond mae angen i weinidogion Llafur gefnogi fy ymgyrch er lles y cleifion hyn a phob claf arall yng Nghymru.”

‘Hanfodol dysgu gwersi’

Wrth ymateb fe fynegodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones, bryder ynglŷn â’r ffigyrau – gan gydnabod serch hynny mai cyfran fechan iawn o gleifion oedd yn cyflwyno cwynion.

“Cafwyd cynnydd sylweddol mewn cwynion, sydd yn fater o bryder, er y gall y drefn gwynion fod yn fwy hygyrch,” meddai Elin Jones.

“Rwy’n sylwi’r cynnydd sylweddol mewn cwynion yn Abertawe Bro Morgannwg, fu’n ganolbwynt cwynion gan berthnasau cleifion sydd wedi derbyn triniaeth warthus ac sy’n brwydro’n galed am gyfiawnder ac am ymchwiliad cyhoeddus llawn.

“Mae’n hanfodol fod gwersi’n cael eu dysgu pan welir unrhyw fethiannau a bod camau’n cael eu cymryd i atal hynny rhag digwydd eto, a bod gwersi o’r profiadau yn cael eu pasio i’r holl fyrddau iechyd.”

Caerdydd a’r Fro yn derbyn mwy o gwynion

Caerdydd a’r Fro gafodd y nifer fwyaf o gwynion dros gyfnod y pum mlynedd diwethaf (7247), gyda bwrdd iechyd Hywel Dda yn derbyn 5665 o gwynion.

Powys gafodd y nifer isaf gydag ychydig dros fil, tra bod Cwm Taf (2264) ac Abertawe Bro Morgannwg (2978) hefyd yn gymharol isel.

Mewn ymateb i’r ffigyrau fe bwysleisiodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg fod nifer eu cwynion yn parhau’n gymharol isel ac ymysg yr isaf yng Nghymru er bod y canran wedi cynyddu’n sylweddol.

“Rydym yn siomedig pryd bynnag y mae unrhyw un yn cysylltu â ni gyda chwynion ac yn ymddiheuro’n ddwys i’r cleifion a’u teuluoedd sydd wedi cael eu siomi,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.

“Mae llawer o esiamplau o ofal da yn ein hysbytai. Rydym yn cael cyswllt â 2.5miliwn o gleifion bob blwyddyn ac fel mae’r ffigyrau’n dangos un o gyfraddau cwynion isaf y GIG yng Nghymru.”

“Ond dyw unrhyw achos o ofal gwael ddim yn dderbyniol. Mae gan bob claf yr hawl i ddisgwyl gofal cyson o safon uchel ac rydym yn gwneud popeth i sicrhau fod hyn yn wir am bob ward ac adran.”