Chris Huhne
Mae bargyfreithiwr sy’n farnwr rhan-amser wedi ei charcharu am 16 mis am ddweud celwydd wrth heddlu fu’n ymchwilio i achos goryrru Chris Huhne.
Cafodd Constance Briscoe ei chanfod yn euog o geisio gwyrdroi cyfiawnder yn achos y gwleidydd Chris Huhne a oedd wedi ceisio cael ei wraig i dderbyn cosb am oryrru ar ei ran.
Roedd y bargyfreithiwr 56 oed wedi ei chael yn euog o ddarparu datganiadau anghywir i’r heddlu yn yr achos yn erbyn Chris Huhne.
Meddai Chris Huhne: “Os ydy hi’n medru dweud celwydd yn ei datganiadau a gafodd eu defnyddio fel y prif dystiolaeth yn fy erbyn i, mae’n amlwg ei bod yn gallu cuddio tystiolaeth a medrai fod wedi ei ddatgelu mewn llawer o’i hachosion pan y bu’n erlyn ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron.”
Ond mae Gwasanaeth erlyn y Goron wedi dweud nad oes unrhyw fwriad i adolygu unrhyw un o achosion Constantine Briscoe, a bod Chris Huhne yn anghywir.