Mae Max Clifford wedi cael ei ddedfrydu i wyth mlynedd dan glo heddiw am ymosod yn anweddus ar bedair merch rhwng 1977 a 1984.
Cafwyd yr arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus 71 oed yn euog o’r troseddau ddydd Mawrth.
Max Clifford yw’r cyntaf i’w gael yn euog yn dilyn ymchwiliad Operation Yewtree i droseddau rhyw.
Roedd Max Clifford yn ysgwyd ei ben wrth i’r ddedfryd gael ei chyhoeddi gan y Barnwr Anthony Leonard yn Llys y Goron Southwark y pnawn yma.
Dywedodd y barnwr: “Y rheswm na wnaeth y troseddau yma weld golau dydd yn gynt oedd oherwydd eich cymeriad cryf a’ch safle ym myd adloniant.
“Roedd y merched gafodd eu cam-drin yn meddwl y byddai wedi bod yn amhosib eich cosbi, rhywbeth dw i’n meddwl eich bod chi’n ei gredu hefyd.”
Roedd yr erlyniad wedi dweud bod Max Clifford wedi addo hybu gyrfaoedd y merched cyn belled ei fod yn cael ffafrau rhywiol.
Yn ôl un o’r merched roedd Max Clifford wedi ei cham-drin pan oedd hi’n 15 oed ac ar wyliau gyda’i theulu yn Torremolinos yn Sbaen yn 1977.