Bu saethu a ffrwydradau yn gynnar y bore yma yn nwyrain Yr Wcráin wrth i luoedd arfog y llywodraeth geisio ail-feddiannu Slovyansk.

Cafodd y ddinas ei chipio gan luoedd sydd yn driw i Rwsia yn ddiweddar gyda maer newydd Slovyansk, Vyacheslav Ponomarev, yn dweud eu bod wedi saethu dau hofrennydd a dal un o’r peilotiaid.

Bu i Arlywydd Rwsia Vladimir Putin alw ar Yr Wcráin i dynnu’i milwyr yn ôl o ardaloedd dwyreiniol a deheuol y wlad.

Ond oriau’n ddiweddarach fe gyhoeddodd arlywydd dros dro’r Wcráin, Oleksandr Turchynov, ei fod yn ailgyflwyno consgripsiwn i’r fyddin oherwydd y bygythiadau i’r wlad ac ymyrraeth Rwsia.

Ymladd yn ôl?

Yn ôl dyn camera Associated Press roedd mwg du i’w weld ar gyrion Slovyansk, ac fe ddywedodd llefarydd ar ran y milwyr pro-Rwsia fod ymladd wedi bod yn digwydd ar y ffyrdd yn arwain i’r ddinas.

Mae saith o arolygwyr Ewropeaidd yn cael eu dal yn gaeth yn y ddinas ar hyn o bryd gan luoedd sydd yn driw i Rwsia.

Os daw cadarnhad bod milwyr Yr Wcráin wedi mynd i mewn i Slovyansk, dyma fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw ymladd yn ôl yn erbyn y gwrthryfelwyr sydd wedi meddiannu gorsafoedd heddlu a swyddfeydd y llywodraeth mewn nifer o ddinasoedd yn ne ddwyrain y wlad.

Mae arlywydd Yr Wcráin eisoes wedi cyfaddef nad yw eu lluoedd arfog wedi bod yn effeithiol iawn wrth ymladd y gwrthryfelwyr yn ardaloedd Donetsk a Luhansk, a’i bod yn well canolbwyntio ar sicrhau nad yw’r trafferthion yn ymledu i rannau eraill o’r wlad.